ELF (2)

Published by Dafydd Job on

imagePrynhawn Sul fe fum mewn seminar diddorol yn edrych ar y modd mae’r hunan wedi meddiannu ein hoes gyfoes. Mae teitl y seminar yn awgrymog tu hwnt – Me, my selfie and I. Cafwyd sgwrs gan Andrew Fellows, yn olrhain y meddwl o adeg y diwygiad Protestannaidd tan heddiw, gyda chanlyniadau digalon y narsistiaeth sy’n golygu ein bod yn dod o hyd i’n hystyr ddim ond yn nhermau’r ddelwedd y gallwn ei gyflwyno i eraill. Ar y llaw arall, mae’r hiraeth am ddilysrwydd yn rhywbeth y gallwn afael ynddo fel Cristnogaeth. Down o hyd i’n dilysrwydd trwy fod yr hyn rydym wedi ein creu i fod – rhai sydd ar lun a delw ein Crëwr. Nid ynom ni mae’n pwrpas i’w ddarganfod, ond yn yr Un yr ydym i’w adlewychu.

Treuliwyd y pryd nos gyda rhai o Gymry, gyda phawb yn bwyta yn ôl eu cenedl. Mae nifer yma o eglwys Highfields yng Nghaerdydd, yn cynorthwyo gyda rhedeg y Fforwm. Mae eraill yma hefyd o dde Cymru, ac roedd yn braf cwrdd â Mark Bennet, Cymro Cymraeg sy’n byw yn ardal Caerfyrddin. Penderfynodd Michael Chalmers a chyfaill arall fod yn well ganddyn nhw uniaethu â ni’r Cymry nag eistedd gyda’u cyd-genedl a draws i ffin.

Yn y cyfarfod nos cawsom ein herio gan dystiolaeth ferch o’r enw Hatun ddaeth i Brydain o wlad Twrci saith mlynedd yn ôl. Wedi dwy flynedd yn y wlad hon gadawodd Islam a daeth yn Gristion a bellach mae yn gweithio i efengylu i Foslemiad. Mae’n mynd i fewn i fosgiau ac yn siarad â phobl yn eofn. Llynedd daeth dros 100 i gredu yn y Gwaredwr, gan gynnwys 3 Imam trwy ei thystiolaeth. Roedd ei thân dros gyrraedd rhai dros Grist yn arbennig iawn a’i dewrder yn codi cwestiwn mawr dros ein hymroddiad ni. Wedyn fe’n harweiniwyd gan Stefan Gustavsson i ystyried os ydym yn sefyll i fyny dros y gwir Beiblaidd yn ein dydd ni.

Bore Llun bum yn mentora gweinidog ifanc o Sweden amser brecwast cyn mynd i wrando ar John Piper, y diwrnod hwn yn edrych ar ail bennod Philipiaid. Ei anogaeth oedd i feddwl am ein hundod yng Nghrist o blaid yr efengyl, yn ein harwain i fentro’n eofn o blaid yr efengyl yn ein byd. Neges gynnes, heriol a chymwys.

Yn y ffrwd apologeteg cawsom ddwy ddarlith yn edrych ar faterion o bwys. Yn gyntaf buom yn meddwl am y cyhuddiad ein bod yn haerllug yn mynnu fod Cristnogaeth yn cau allan llawer trwy fynnu mai Crist yw’r unig ffordd at Dduw. Yn yr ail roedd Peter J Williams o Tyndale House yng Nghaergrawnt yn ein tywys trwy’r efengylau i ddangos fel mae’r hyn ddarllenwn yno yn pwyntio at ddilysrwydd yr hanes. Roedd ei ddarlith yn feistrolgar a diddorol.

Amser cinio roeddwn yn cwrdd â David Brown sy’n mynd i arwain y grŵp sy’n edrych ar ffyrdd o adnewyddu’r eglwys dros y flwyddyn nesaf. Mae David wedi bod yn genhadwr yn Ffrainc ers blynyddoedd ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae rhai ar draws Ewrop yn gweld y modd i symud yr eglwys ymlaen.

Gyda’r nos roedd y grŵp apologeteg yn cwrdd i rannu gyda’i gilydd. Mae hwn yn beth newydd eleni, gan fod yr arweinwyr wedi sylweddoli fod dod i adnabod ein gilydd yn well yn rhan pwysig o’r fforwm. Roedd cyfle i rannu’r anogaethau brofwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac roedd yn syndod fel mae’r fforwm wedi bod yn gymorth allweddol yn nhystiolaeth sawl un.