ELF 4
Prynhawn Mercher penderfynais orffwys unwaith eto. Mae’r sesiynau mentora yn gallu bod yn drwm bob pryd bwyd. Amser cinio bum yn ceisio cynorthwyo dyn o Rwmania sy’n arwain gweinidogaeth i ddynion yn y wlad, ac yna yn ystod y pryd nos roeddwn yn mentora gwraig sydd wedi cael ei chlwyfo gan sawl peth yn y gorffennol. Wedi hynny roeddwn yn cael fy holi am fy ngwaith gan Pasi Turunnen, o’r Ffindir, cyn mynd i sesiwn lawn olaf y Fforwm. Yr her yn yr anerchiad olaf hwn oedd i edrych ar Ewrop gyda llygaid Iesu. Wrth i Iesu a’i ddisgyblion deithio drwy Samaria ar eu ffordd o Jerwsalem, roedd y disgyblion yn gweld y siwrnai, gweld addoliad gwallus y Samariaid, gweld yr angen am fwyd. Prin eu bod wedi sylwi ar y wraig wrth y ffynnon, ond roedd Iesu’n gweld y meysydd yn wyn a chynhaeaf i’w gasglu (Ioan 4:35).
Wedi’r cyfarfod roedd y rhan fwyaf yn hirymarhous i fynd i’r gwely, gyda llawer yn ffarwelio â’i gilydd am flwyddyn arall.
Fore Iau roedd amryw eisoes wedi gadael yn ystod y nos. cefais frecwast gyda chyfaill o’r Ffindir, a gan nad oedd fy awyren yn gadael tan hanner awr wedi chwech roeddwn wedi arwyddo i ddilyn seminarau yn y bore dan arweiniad Richard Winter, Seicolegydd sy’n gweithio yn Covenant Seminary yn yr Unol Daleithiau. Teitl y seminar oedd Sense and Sexuality, ac roedd yn cymryd arolwg o’r awyrgylch bresennol. Yr her yw sut mae cyflwyno agwedd iach at ryw fel rhodd werthfawr gan Dduw yn ein cymdeithas gyfoes. Roedd yn arweiniad doeth a chynnes. Doedd ddim yn ofni wynebu’r holl dueddiadau a gwyriadau rydym yn eu wynebu, a thrafod sut mae rhoi arweiniad cyfrifol yn ein dydd ni. Roedd rhai o’r ystadegau am gam-drin rhywiol a phornograffi yn ddychryn. Ond ar y llaw arall roedd y darlun o’r hyn mae Duw wedi ei roi i ni yn brydferth, a chymorth posib i fedru byw a mwynhau rhodd ddaionus Duw.
Wedi bore cyfan yn ystyried hyn dyma gael ar y bws a thaith o tua dwy awr i faes awyr Krakow. Yno bum yn sgwrsio gyda un o fy nghyd-gynhadleddwyr sy’n plannu eglwys yn ne Iwerddon cyn mentro ar yr awyren nôl am Fanceinion. Hyd yn oed wrth adael roedd cysylltiadau newydd yn cael eu gwneud.
Unwaith eto bu’r Fforwm yn fendith ac yn her. Mae cwrdd â chynrychiolwyr o dros ddeugain o wledydd gwahanol yn ehangu gorwelion a phersbectif. Mae clywed beth mae Duw yn ei wneud ar draws Ewrop yn codi gobeithion a hyder. Mae gweld dewrder rhai o blaid y ffydd yn herio difaterwch a diffyg menter. Cefais eistedd i wrando ar ddysgeidiaeth rhai o arbenigwyr gorau’r byd yn eu meysydd. Ond cefais hefyd eistedd gyda rhai sydd nghanol brwydrau o blaid y ffydd – i wylo gyda hwy yn eu poen ac i lawenhau gyda hwy yn yr Arglwydd sy’n eu cynnal. Daeth sawl gwahoddiad i fynd i gynorthwyo – ond does dim modd i mi ymateb iddyn nhw i gyd. Rhaid i minnau droi fy meddwl yn ôl at Fangor a phraidd Duw sydd yno’n disgwyl amdanaf.