Fforwm Arweinwyr Cristnogol Ewrop 2017 (2)

Published by Dafydd Job on

Yr Athro John Lennox

Roedd diwrnod cyntaf llawn y gynhadledd yn dechrau’n gynnar gyda brecwast am 7.00. Mae prydau bwyd yma yn gyfle i fedru cyfarfod a threfnu, gyda llawer o fentora yn digwydd. Roeddwn i wedi trefnu cael brecwast gyda chyfaill o Gymru, Dave Norbury, a buom yn rhannu a meddwl am y sefyllfa yn ein gwlad. Yna am 8.30 roedd pawb yn ymgasglu i’r brif neuadd ar gyfer cyfarfod mawr cyntaf y dydd. Yma dechreuwyd yn canu’r hen emyn “Sanctaidd, Sanctaidd, Sanctaidd, Dduw hollalluog.” Cafwyd cyfnod o addoliad cynulleidfaol, yn cael ein harwain gan Paul Webber, Cymro di-Gymraeg sy’n gweinidogaethu yn Southampton. Yna buom yn parhau ein haddoliad trwy gael ein harwain i edrych ar lyfr yr Actau gan yr athro John Lennox.

Yn dilyn y cyfarfod hwn roedd pawb yn rhannu i wahanol ffrydiau ar gyfer gweddill y bore. Yn y gorffennol rwyf wedi bod yn dilyn ffrwd ar Apologeteg, neu ar efengylu. Mae ffrydiau hefyd ar wyddoniaeth, pregethu, cynghori, artistiaid, academyddion a nifer o rai eraill. Eleni rwy’n ymuno gyda grŵp yn trafod sut mae meithrin disgyblion trwy ffurfio grwpiau bychan i gyfarfod yn rheolaidd. Mae’r sessiynau yn cael eu harwain gan ddau Americanwr, John Musselman a Bill Lohnes, a’r trafod ar y diwrnod cyntaf yn hwyliog ond yn ddiddorol a heriol.

Wedi cinio roedd cyfle i fynychu gweithdai amrywiol, ond cymerais y cyfle i orffwys gan i mi beidio cysgu llawer yn ystod y ddwy noson flaenorol. (Mae’r brawd sy’n rhannu ystafell â mi yn mynnu codi am 4.00 y bore i fynd i gerdded a myfyrio, ac yn llwyddo i fy neffro bob tro!) Roedd yn gyfle hefyd i gyfarfod a sgwrsio gyda rhai rwyf wedi dod i’w hadnabod dros y blynyddoedd.
Yna treuliwyd y pryd bwyd a min nos eto yn ein ffrydiau gyda’r bwriad ein bod yn dod i adnabod ein gilydd yn well. Bydd y nosweithiau nesaf yn wahanol.

Un o fendithion y Fforwm yw’r cyfle i weinidogaethu i’n gilydd yn anffurfiol. Mae’n beth cyffredin iawn i weld dau mewn rhyw gornel dawel, neu wrth bryd bwyd, yn gweddïo gyda’i gilydd. Eisioes rwyf wedi cael amser gyda chyfaill o Loegr sy’n aelod mewn eglwys sy’n mynd drwy drafferthion ar y funud. Roedd yn gyfle i geisio cynghori, ond hefyd i weddïo ac yntau yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod gyda rhywun y tu allan i’w sefyllfa. Cefais seiat braf hefyd gyda chyfaill o’r Alban am ei waith a’i weinidogaeth. Yna gwelais gyfaill o Serbia y bûm yn ceisio ei gynorthwyo llynedd drwy gyfnod anodd iawn yn ei fywyd. Bellach mae mewn sefyllfa llawer gwell, a’i wraig yn dod ataf i ddiolch am yr help gafodd.