Rhyddid a Chaethiwed

Published by Dafydd Job on

Wrth edrych ar y lluniau sy’n dod o’r Dwyrain Canol y dyddiau hyn mae’n anodd peidio cydymdeimlo â’r bobl sy’n tyrru i’r strydoedd i hawlio newid yn y gyfundrefn wleidyddol yn eu gwledydd. Wedi’r cwbl rydym ni yn y Gorllewin wedi cael mwynhau’r rhyddid mae democratiaeth yn ei ddiogelu i ni ers cymaint o amser. Mae’r caethiwed sydd i’w weld yn rhai o’r gwledydd hyn yn ymddangos mor ormesol. Byddai byw dan y fath sustem yn gyfyngu na allem yn hawdd dygymod ag o. Wrth weld y golygfeydd o Libya rydym yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gennym o’r newydd.

Ond gwnaeth hyn i mi feddwl am holl fater rhyddid a chaethiwed. Ydi pob rhyddid yn dda? Ydi pob caethiwed yn ddrwg? Peidiwch â fy nghamddeall. Fe fûm yn ymweld â Christnogion ym Mhrâg pan oedd y Comiwnyddion yn llywodraethu yno, a fyddwn i ddim yn dymuno cyfnewid ein trefn wleidyddol ni am hynny o gwbl. Ond mae ambell i gaethiwed i’w weld yn rhoi mesur o ddiogelwch i ni.

Cymrwch chi gaethiwed sy’n cyfyngu ar bob un ohonom. Rydym yn gaeth i Ocsigen. Fedrwn ni ddim byw hebddo, ac oherwydd hynny rydym wedi ein caethiwo i fynd lle mae’r nwy bywiol hyn ar gael. Pe na byddem yn gaeth, gallem grwydro i ddyfnderoedd y môr fel pysgodyn, neu hedfan i fyny i’r lleuad heb yr holl siwtiau gofod trwsgl. Ond go brin y byddai unrhyw un ohonom yn cwyno o ddifrif am fod yn gaeth fel hyn. Mae yna ryw wefr o anadlu’n ddwfn a theimlo’r nerth a’r bywyd yn llifo yn ein gwythiennau.

Fe ddywedwyd wrthym ni’r Cymry ers blynyddoedd bellach mae caethiwed yw crefydd, a chaethiwed yn arbennig yw Cristnogaeth. Awgrymwyd fod Piwritaniaeth ein teidiau a’n neiniau yn mygu gwir ryddid. Mae angen ymryddhau o bob caethiwed.

Ac eto, yn ein cymdeithas rydd ni tydi hi ddim yn ymddangos fod mwy o hapusrwydd yn bodoli. Yn wir mae’n ymddangos ein bod wedi cael gwared ag un caethiwed er mwyn cofleidio un arall – caethiwed materoliaeth. Dywedir fod ein dedwyddwch yn dibynnu ar y pethau gallwn gael gafael arnyn nhw neu ar y pethau y gallwn eu profi. Rhaid cael yr ipod neu’r teclun diweddaraf; rhaid mynd i’r digwyddiad mwyaf cynhyrfus; rhaid cael y rhyw mwyaf pleserus. Ond tyden ni ddim yn fwy bodlon na dedwydd er cael yr holl bethau hyn. Mae ansicrwydd economaidd ein gwlad yn bwrw cysgod o bryder dros gymaint.

Mae yna un oedd wir yn rhydd – fedrwch chi ddim ffeindio neb oedd mor rhydd ag o – yr Arglwydd Iesu Grist. Wrth ddarllen ei hanes mae yna ryw lawenydd di-ben draw i’w weld yn ei ysbryd. Eto fe soniodd amdano’i hun fel un ddaeth i fod yn was i bawb. Mae’r Beibl yn dweud iddo fod yn ufudd i gynllun ei Dad nefol – ufudd hyd at farw ar groes. Roedd gosod ei hun dan y gaethiwed honno yn golygu rhyddid iddo.

A’i her i ni yw bod gwneud ein hunain yn gaeth iddo fo yn golygu gwir ryddid i ni. “Os daliwch chi afael yn beth ‘dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. 32 Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.” (Ioan 8:31-32  beibl.net)

Rydym i gyd yn gaeth i rywbeth – y cwestiwn ydi, pwy yw ein meistr? Tystiolaeth biliynau o bobl yn ein byd heddiw yw bod caethiwed i Grist yn ryddid na ellir mo’i gymharu ag unrhyw beth arall.

Categories: Uncategorized

0 Comments

Gadael Ymateb

Avatar placeholder