Beth yw gwerth bywyd?
Heddiw mae’r bilsen bore wedyn ar gael am ddim yn fferyllfeydd Cymru. Mae rhai yn gweld hyn fel peth cadarnhaol. Sonir am y gofid sydd i famau ifanc ein gwlad. Sonir am hawl merched i ddewis – wedi’r cwbl mae dynion wedi llwyddo i osgoi cyfrifoldeb erioed, gan gymryd mantais heb wynebu’r canlyniadau. Mae hyn yn gymorth i dynnu i lawr lefel yr unwanted pregnancies.
Yn sicr mae angen cymorth i ferched ifainc, ac mae lle i Gristnogion ddangos cefnogaeth a chymorth i ferched sy’n cael eu hunain yn disgwyl plentyn mewn amgylchiadau anodd. Ond onid oes modd newid y sefyllfa mewn ffyrdd eraill. Beth am y ffordd mae rhyw yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau? Beth am y modd mae gwerth bywyd yn cael ei ddibrisio? Beth am ystyried gwerth y bywyd sydd wedi ei greu yn y groth? Beth am hawl y plentyn (ie, rwy’n mynnu galw’r gell fach newydd yn blentyn yn y groth) nad oes ganddo lais i brotestio yn erbyn y difa distaw sy’n digwydd.
Rai blynyddoedd yn ol fe gyhoeddwyd y ffaith ofnadwy fod mwy o erthyliadau wedi digwydd ym Mhrydain ers cyfreithloni’r weithred honno nag oedd o bobl a laddwyd yn yr holocost. Ar y pryd fe ysgrifennais y gerdd hon sy’n parhau, mi gredaf, yn berthnasol i’n dydd ni. Gwae ni am fod yn genedl sydd yn credu nad yw bywyd yn sanctaidd.
Galargan yr Erthylod
Cenfigennwn wrthych blant Ephrata;
Cawsoch floeddio
Wrth gyfarch y byd
Ar ôl turio
Yn eich amser eich hun
O grud y groth;
A daeth taid a nain i ddotio,
A’r cymdogion i weld
A dweud fod gennych lygaid eich mam
A gwên eich tad.
Fe gawsoch chi enw
A theulu’n olrhain eich achau’n ôl at Dafydd, neu Jwda, neu Abraham;
Ac fe seriwyd eich gwên ar gof
Y rhai na fynnai yn eich anghofio.
Daeth mynwes gynnes atoch
Yn nuwch y nos
I dawelu eich crïo â’i si hei lwli,
A chawsoch fodloni’ch greddf
O sugno, sugno’r llaeth
A’ch gyrrai yn ôl i gysgu’n dawel, ddi-bryder.
Ac er i gleddyf Herod
Eich difa cyn pryd,
Fe glywyd eich galargan
Yn codi dros fryniau Jwda,
“Rahel yn wylo am ei phlant
Ac ni fynnai ei chysuro.”
Yr oedd eich eisiau ar rhywun.
Cenfigennus ym ni ohonoch
A’n llef ddistaw, na fyn neb ei chlywed,
Yn diasbedain
Drwy ysbytai a chlinigau ein gwlad.
© Dafydd M. Job
0 Comments