Comisiynu Heledd

Published by Dafydd Job on

Ddydd Sul diwethaf cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yng
Nghapel y Ffynnon, i gomisiynu un o’n haelodau i fynd i fod yn weithiwr Cristnogol
yng ngwlad Slovakia. Roedd yr achlysur yn un hapus, er fod yna emosiwn yn amlwg
yn y digwyddiad. ’Doedd y ffaith ei bod hi’n ferch i mi ddim yn ei gwneud yn
haws i gadw’r teimladau dan reolaeth.

Tystiodd amryw fod y neges a roddais iddi hi a’r eglwys
yn fendithiol felly dyma’i hail-gynhyrchu yn fras yn y fan hon:

Philipiaid 4 adnodau 6 – 8

Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.  7 A bydd tangnefedd Duw, sydd
goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist
Iesu.  8 Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a  phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.

Bu meddwl am air ar gyfer y cyfarfod hwn yn her. Oherwydd ar ddydd fel heddiw mae’r teimladau’n amrywiol. Mae nhw’n deimladau o lawenydd – mae yna un sy’n wynebu cyfnod newydd o wasanaeth i’w Harglwydd. Mae’r eglwys hon yn cael y fraint o anfon Heledd allan, nid yn unig yn enw’r Arglwydd Iesu ond yn ein henw ni mewn ffordd real iawn. Mae’r blynyddoedd o weddïo, y cyfarfodydd plant, y Suliau, y tystio wedi dwyn ffrwyth.

Ond mae hefyd yn ddydd o deimladau mwy cymysglyd – i Heledd sut fydd dygymod â dysgu’r iaith newydd, ceisio dod o hyd i ffrindiau, dygymod ag unigrwydd weithiau. Ac i ni fel eglwys ac fel teulu mae Slovakia yn ymddangos ychydig yn bell. Ryden ni wedi dod i arfer efo’i chael hi’n ôl adref.

Pa air felly sy’n addas? Dyma droi at lythyr Paul at y Philipiaid – llythyr sy’n sôn llawer am lawenydd mewn amgylchiadau anodd. Cawn edrych ar eiriau lle mae Paul yn ceisio annog a chalonogi’r eglwys fach bryderus yn Philipi. Rydw i am nodi pedwar peth fydd gobeithio yn help i Heledd ac i ninnau.

1)   Peidiwch a phryderu – dyma beth mae Paul yn dweud wrth y Cristnogion yn Philipi. Don’t panic. Mi allen ni feddwl bod y geiriau yma’n ddim ond rhyw soft soap. Ond ystyriwch pwy sy’n deud y geiriau. Pan oedd yr apostol yn Philipi y tro cyntaf fe wynebodd anawsterau mawr (gweler Llyfr yr Actau, Pennod 16), ac wrth ddarllen y llythyr fe welwch fod hwn â gofal mawr dros yr eglwys fechan. Felly o’i enau ef mae’r anogaeth yn dod mewn grym. Dyma un oedd yn gallu deud fod ei gymryd o i’r carchar wedi troi i fod yn lles i’r
efengyl. Dyma’r un oedd yn hyderus fod y Duw a ddechreuodd waith da ynddyn nhw yn mynd i’w gyflawni erbyn dydd Crist. Gallwch chi gymryd geiriau oddi wrth rhywun fel hyn. Nid ceisio cael amser tawel mae o ond dweud o’i flynyddoedd o brofiad fod y Duw roedd wedi ymddiried ynddo yn un i’w drystio i fynd o’n blaen ni, i ddod gyda ni, i warchod o’n hôl ni (cf y cwmwl yn yr anialwch i’r Israeliaid) Crist yw’r un ddywedodd wrth ei ddisgyblion: Luke 12:32-33  Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi’r deyrnas. 33 Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa.

i’w barhau


0 Comments

Gadael Ymateb

Avatar placeholder