Comisiynu Heledd (parhad)
2) Gweddïwch
Er fod Paul yn deud “Peidiwch â phryderu am ddim”mae’n gwybod y byddwn ni yn teimlo’n bryderus. Dyma un o’r pethau ryden ni weithiau yn anghofio – mae yna wahaniaeth rhwng teimlo ofn, a rhoi i mewn i’r ofn hwnnw. Roedd ffordd yr apostol ei hun o ddelio efo’i bryderon yn un syml iawn.
Fel ag y mae plentyn weithiau yn troi at ei rieni ag yn deud – “mam, ‘dwi angen bod yn yr ymarfer pel-droed am chwech heno”, a’i adael o yno, heb bryderu sut fydd o’n cyrraedd – felly i Paul roedd rhoi’r angen yn nwylo ei Dad nefol, a’i adael o yno yn ddigon. Philipiaid 4:6 ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil. Nodwn ychydig o bethau: (a)Ym mhob peth – does yna ddim un consyrn o’n heiddo ni
sy’n anaddas i’w ddwyn gerbron ein Tad yn y nefoedd.
(b) Y cwlwm mae gweddi yn ei greu rhyngom ni – Rwy’n cofio Mrs. Pugh, cenhades a
deithiodd i India ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Pan gyrhaeddodd India ar ei phen
ei hun ‘doedd neb yno i’w chyfarfod. Yr unig beth cyfarwydd a welai oedd y lleuad uwchben a chofiodd mai’r un lleuad oedd yn gwenu ar y bobl oedd yn ei chynnal mewn gweddi adref yng Nghymru. Bydd yna gwlwm rhwng Bangor a Kosice fydd yn well na Skype.
3) Diolchgarwch –
Un o’r pethau sy’n ein cadw yn gall ydi cyfrif ein bendithion. Mae gennym ni’r Meistr gorau bosib. Felly mae gennym bob amser le i ddiolch. Diolch am fendithion tragwyddol – ei fod yn Dduw mor ogoneddus; fod yr efengyl mor ryfeddol; fod ei ras yn dragwyddol;
Diolch am fendithion personol – y modd y mae wedi ein cadw; y modd y mae ei roddion yn dod i ni o ddydd i ddydd; y cysur a gawn o’r Gair; y llythyrau neu e-byst ddaw i galonogi;
Diolch am ei addewidion: Salm 121:3-4 Nid yw’n gadael i’th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu. 4 Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno. Rhufeiniaid 8:28 Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad. 1 Corinthiaid 10:13 Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw’n gyffredin i bawb. Y mae Duw’n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i’ch gallu; yn wir, gyda’r prawf, fe rydd ef dihangfa hefyd, a’ch galluogi i ymgynnal dano. 1 Pedr 1:3-4 Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, 4 i etifeddiaeth na ellir na’i difrodi, na’i difwyno, na’i difa. Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi, Mathew 28:20 Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”
4) Gosod ein bryd ar yr hyn sy’n dda:
Philipiaid 4:8 beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.
Os yden ni’n gwneud y pethau cyntaf, yna mae’n golygu ein bod yn rhydd i fynd ymlaen i fyw fel mae Duw am i ni fod. Mae tangnefedd Duw wedi ei roi i ni – y tangnefedd o wybod mai fo sydd in controI, a’n bod ni’n rhydd i fynd ar ôl ei ewyllys a’i ffyrdd o. Gadewch
i mi roi hyn mewn termau real. Pan fyddi di yn cyrraed Slovakia, yn hytrach na phoeni am ddysgu’r iaith, mi fyddi di’n gallu ymddiried hynny i Dduw. Ond o’r foment y byddi di’n camu oddi ar y tren yn Kosice, mi fyddi di’n dechrau siarad a byw iaith cariad. Mi fydd pob un rwyt ti’n eu cyfarfod yn bobl i ti estyn allan atyn nhw mewn cariad. Ac mi fyddan
nhw’n deall yr iaith honno.
A dyma her i ninnau sydd ar ôl ym Mangor. Ydech chi’n cofio geiriau Paul yn y bennod gyntaf?Philipiaid 1:27-28 Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl, 28 heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr.
Byddwn ni’n clywed am Heledd, a bydd hithau’n clywed amdanom ni ein bod ni gyd yn
gosod ein bryd ar y pethau hynny sy’n gywir gerbron Duw.
0 Comments