Tymor yr Adfent 2
Mae hanes y Nadolig yn rhan o stori llawer mwy. Un bennod yw hon mewn hanes hir. Mae’n wir ei bod yn bennod arbennig iawn, a chwbl hanfodol yn y cynllun mawr. Ond heb i ni edrych ar y darlun mawr, yna ni fydd yn ddim ond stori tylwyth teg.
Gallem ni ddweud fod y stori fawr yn dechrau cyn creu byd o gwbl. Roedd yna adeg cyn bod amser – y cwbl oedd yn bod oedd Duw, a’r Duw hwnnw yn gwbl ryfeddol. Dyma’r Duw sy’n Dad, Mab ac Ysbryd heb fod yn dri Duw gwahanol – tri person o fewn y Duwdod. Yn nhragwyddoldeb roedd eu perthynas yn un o gariad pur yn llifo oddi wrth y naill berson i’r llall. Mae’n amhosibl i ni ddychmygu’r llawenydd, y gorfoledd, a’r gogoniant y tu hwnt i ffiniau amser. Ond cawn gipolwg wrth glywed Iesu yn gweddïo ar ei Dad, gan ddweud: “Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â’r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.” (Ioan 17:5)
A dyma’r cwbl yn gorlifo mewn cynllun rhyfeddol – cynllun a fyddai’n dangos pa mor rhagorol yw Duw yn ei ddoethineb, ei sancteiddrwydd, ei gariad a llu o nodweddion eraill. Mi fyddai’r cynllun hefyd yn dwyn daioni a bendith na ellir eu mesur i wrthrychau y byddai’r Duw hwn wedi eu creu. Ac felly gallwn ddweud gydag Ann Griffiths am y “Ffordd a drefnwyd cyn bod amser i gael dihangfa o ddrygau’r ddraig.”
Neu yng ngeiriau un o’r carolau newydd byddwn yn canu yng Nghapel y Ffynnon:
Yn y dydd cyn dyfod dyddiau
Trefnwyd dydd dy ddyfod Di;
Trefnwyd bore gwyn y geni
Cyn goleuo’n daear ni;
Cyn bod pechod,Trefnwyd cymod
Trwy gyfamod Perffaith Drindod;
Trefnwyd aberth trosom ni;
Trefnwyd aberth trosom ni.