Tymor yr Adfent 4
Tymor o edrych ymlaen yw ‘r Adfent. Mae plentyn yn edrych ymlaen at gael yr anrheg fydd yn rhoi oriau o bleser iddo – pleser nad yw’n ei fwynhau ar hyn o bryd. Yna mae’r rheini sy’n edrych ymlaen at gael y teulu i gyd yn dod adref, a bydd gwacter eu hunigrwydd yn cael ei lenwi dros dro beth bynnag. Wedyn mae eraill yn edrych ymlaen at gael newid oddi wrth y bwyd cyffredin, bob dydd a gwledda ar ddanteithion dros yr ŵyl.
Pwy yw y rhai sy’n edrych ymlaen yn ddisgwylgar? Y rhai hynny sy’n ymwybodol fod yna rhywbeth ar goll yn eu bywydau – rhyw dlodi. A dyna sy’n wir yn ysbrydol. Crist a ddywedodd “Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.” (Mathew 5:3) Ac wrth edrych ar yr Ysgrythur fe welwn rai fel hyn. Nid pobl ar ben eu digon oedd y rhain, yn fodlon ar y cyfan oedd ganddynt ond rhai oedd yn ymwybodol fod yna rhywbeth mwy i ddod – rhai fel Simeon “oedd yn disgwyl am ddiddanwch Israel” – fe wyddai fod yna rhyw ddiffyg yng nghyflwr calon ei bobl, ac edrychai am Un fedrai lenwi’r gwacter hwnnw. Roedd yna eraill a wrandawodd ar Anna wrth iddi “lefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.”(Luc 2:25 a 38)
Am beth fyddwn ni yn ei ddisgwyl wrth edrych ymlaen fel hyn? Mae llawer o bethau braf y byddwn ni yn cael eu profi adeg y Nadolig, ond wnaiff y rheini byth lenwi ein tlodi ysbrydol. Rhan o’n paratoi felly yw wynebu ein cyflwr – y cyflwr y cawsom ein gadael ynddo trwy wrthryfel Adda ac Efa (gweler myfyrdod ddoe). Fel y dywedodd Martin Luther, y Diwygiwr, ar ei wely angau: “Rydym i gyd yn gardotwyr truain.”
Ond yn y ddisgyblaeth hon o ddisgwyl, bydd ein llawenydd o sylweddoli fod yna Un wedi ei eni ar ein cyfer ni yn gymaint mwy.
Diosgodd Crist ei goron
O’i wir fodd, o’i wir fodd,
Er mwyn coroni Seion
O’i wir fodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog,
I ddioddef dirmyg llidiog,
O’i wir fodd,o’i wir fodd,
Er codi pen yr euog
O’i wir fodd.