Tymor yr Adfent 6
Mae’r Hen Destament yn edrych ymlaen at yr Un oedd i ddod. Roedd Iesu yn gallu ceryddu’r disgyblion am fethu gweld hyn. Cymrwch chi’r ddau ar y ffordd i Emaus wedi’r croeshoelio a’r atgyfodiad. Ynghanol eu dryswch a’u penbleth, tydyn nhw ddim yn gallu gwneud trefn o ddigwyddiadau’r dyddiau a fu. Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, a mor araf yw eich calonnau i gredu’r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i’w ogoniant?” A chan ddechrau gyda Moses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.” (Luc 24:25-27) Sut ydym fod i weld Crist yn y llyfrau hyn ysgrifenwyd gannoedd o flynyddoedd a mwy cyn i’r baban gael ei eni ym Methlehem?
Mae yna broffwydoliaethau sydd yn gwbl amlwg yn cyfeirio ato. Yn Eden fe gyhoeddwyd byddai had y wraig yn ysigo pen y sarff. Fe gawn eiriau wedyn yn cyfeirio at yr un ddeuai o dras y Brenin Dafydd fyddai’n llywodraethu am byth. Mae’r geiriau enwog yn Eseia am y forwyn yn beichiogi, (Hyd yn oed os oedd y geiriau yn cyfeirio at rywun arall ym meddwl Eseia, roedden nhw hefyd yn amlwg yn cael eu cyflawni ym maban Mair.) a’r bachgen a aned i ni (Eseia 7 a 9); am y gwas a ddioddefai (Eseia 53) a’r un y byddai Ysbryd yr Arglwydd arno (Eseia 61). Fedrwn ni ddim anghofio geiriau Micha am y llywodraethwr a ddeuai o Effrata. Mae llu o enghreifftiau fel hyn.
Mae yna hefyd gysgodion o’r Gwaredwr oedd i ddod. Hynny yw, mae yna batrymau yn cael eu gosod i lawr, ac yn cael eu cadarnhau dro ar ôl tro nes eu bod yn dod yn gysgod o’r hyn roedd Duw am ei wneud yn Iesu. Cymrwch chi’r syniad o aberth. Yn ôl yng ngardd Eden, wedi gwrthryfel Adda ac Efa, rhaid lladd anifail i greu gwisg i guddio noethni a chywilydd ein rheini cyntaf. Yna mae Abraham yn mynd i aberthu Isaac, ac ar y funud olaf ceir hwrdd gyda’i ben wedi ei ddal mewn drain sy’n cael ei dderbyn fel aberth yn lle’r hogyn. Rai cannoedd o flynyddoedd wedi hynny fel gawn Oen y Pasg yn yr Aifft, ac wedi hynny trefn yr aberthau wedi ei gosod i lawr yn llyfr Lefiticus. Trwy’r cwbl down i weld patrwm wedi ei osod – daw gwaredigaeth a maddeuant trwy aberth, trwy golli gwaed. Fel hyn gwelwn fod y cysgod yn cyfeirio ymlaen at y sylwedd. Daw Iesu yn gyflawniad yr holl gysgodion. Dyna pam fod llwybr y baban a anwyd ym Methlehem yn arwain yn y pen draw at y groes, a’r goron ddrain. Dyna hefyd pam y gallai Iesu geryddu’r disgyblion am beidio a chymryd yr hyn roedd yr Hen Destament yn ei ddweud o ddifrif:
“Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod.”
Sut fyddwn ni’n darllen yr Hen Destament tybed?