Tymor yr Adfent 7
Dyma ni wythnos i mewn i fis Rhagfyr yn barod. Mae’r dyddiau yn brysio heibio a’r Nadolig yn dod yn nes. Mewn termau gwyddonol gallwn fesur amser – mae yna gysondeb gyda phob eiliad yn gyfartal â phob eiliad arall. Ond i ni mae amser yn gallu llusgo – pan fyddwn yn eistedd mewn ciw traffig neu yn ‘stafell aros y deintydd. Neu gall amser frysio heibio pan fyddwn â llu o bethau i’w gwneud a dim digon o funudau yn y dydd i’w cyflawni.
Mae Duw tragwyddol y tu hwnt i amser, ac eto yr hyn ddarllenwn ni yn y Beibl yw ei fod wedi ystyried ein byd ni gyda’i eiliadau, ei funudau a’i flynyddoedd. Darllenwn: pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith (Galatiaid 4:4). Nid rhyw enedigaeth ar hap oedd y geni hwn ym Methlehem. Roedd wedi ei baratoi ers cyn bod y byd, a’r paratoadau i gyd yn eu lle, yr amgylchiadau yn union fel y dylen nhw fod, a’r amser iawn wedi dod i’r Gwaredwr gyrraedd.
Felly Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. 2 Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria. (Luc 2:1-2) Ar adeg arbennig daeth Cesar Awgwstus yn ymherawdwr a phenderfynu trefnu cyfrifiad o’i deyrnas, a’r cwbl yn nhrefn Duw fel bod y llywodraethwr yn dod o Fethlehem Effrata (Micha 5:2; Mathew 2:5,6). Ymddangosodd seren, daeth sêr ddewiniaid, ac yn ein byd ni o amser daeth y Gair yn gnawd.
Ond nid amser addas ar gyfer genedigaeth Iesu yn unig oedd hwn. Deg ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach dyma Iesu’n dechrau ar ei weinidogaeth gan ddweud: “Y mae’r amser wedi ei gyflawni ac y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.” (Marc 1:15). Mae amser yn rhoi cyfle i ni fedru ymateb i’r Un a ddaeth i’n byd.
Ar foreuau Sul rydym wedi bod yn edrych ar y Llythyr at yr Hebreaid, ac mae hwnnw’n sôn am amser – am ein HEDDIW ni (Hebreaid 3:7 – 14). Mi fydd yna lawer o brynu yn digwydd dros y tair wythnos nesaf. Gadewch i ni brynu yr amser, a gwneud yn fawr o’r trysor a ddaeth i’n byd ym Methlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Y Nadolig, 1999
Ganwaith ar ŵyl y geni
Oedaf a rhyfeddaf fi;
Er y gwn y stori i gyd,
Eilwaith mae’n rhaid dychwelyd
‘Leni, dros ddau fileniwm,
I’r nos ddu, a’r llety llwm
At breseb na bu’i debyg
Lle daw bugeiliaid, lle dug
Doethion eu anrhegion drud
A nef yn atsain hefyd
Am mai hwn yw baban Mair –
Ein Duw sy’n blentyn diwair;
Ac oedaf, rhyfeddaf fi
Ganwaith ar ŵyl y geni.
© Dafydd M Job