Tymor yr Adfent 8
I lawer mae’r Nadolig yn adeg i ddianc oddi wrth y byd go iawn am ychydig – byd gwaith, byd problemau economaidd, byd cyfrifoldebau. Mae yna ychydig o ddyddiau yn y flwyddyn beth bynnag pryd y cawn anghofio am y pethau hyn i gyd.
Rhan o newyddion da yr ŵyl i Gristnogion, ac i bawb arall pe byddent yn ei dderbyn, yw fod Duw wedi disgyn o’i nefoedd i wynebu y byd go iawn – y byd rydym ni yn byw ynddo. Immanuel – Duw gyda ni – yw thema fawr y dathlu. Datguddiodd Duw ei hun fel hyn i’w bobl yn gyson trwy’r oesoedd.
Meddyliwch er enghraifft am Israel yn gaeth dan lywodraeth Pharo yn yr Aifft. Roedd eu rhyddid wedi ei ddwyn oddi arnyn nhw, a’u beichiau yn drwm. Roedd rhai ohonyn nhw yn gallu cofio am yr hen stori oedd yn mynd rownd ymhlith rhai o’r rhai hŷn – am Dduw yn dod at Abraham, gan addo nid yn unig byddai ei had fel llwch y ddaear, ond hefyd y bydden nhw’n etifeddu gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Ond beth oedd Duw yn ei wybod am eu problemau a’u cyflwr rwan. Roedd Pharo a’i ormes yn llawer mwy real na Duw. Byddai’n braf cael rhyw ddiwrnod o wyliau i ddianc oddi wrth hyn i gyd dros dro.
Ond beth mae Duw yn ei ddweud wrth Moses? Yna dywedodd yr Arglwydd, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau. Yr wyf wedi dod i’w gwaredu o law’r Eifftiaid, a’u harwain o’r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl (Exodus 3:7-8). Nid Duw pell difater oedd hwn, ac fe ddaeth y diwrnod iddo wireddu ei addewidion iddyn nhw. Disgynnodd i’w gwaredu oddi wrth eu gormeswr.
Felly yn awr gall Duw ddweud ei fod yn gwybod am ein doluriau ni, ac nid oherwydd ei fod wedi edrych i lawr o’r nefoedd i weld ein sefyllfa o bell. Mae wedi dod mewn ffordd llawer mwy real – daeth y Gair yn gnawd – ac mae’n gwybod trwy brofiad yr hyn rydym ni yn gorfod ei wynebu o ddydd i ddydd. Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o’r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o’r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu’r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol, a rhyddhau’r rheini oll oedd, trwy ofn marwolaeth, wedi eu dal mewn caethiwed ar hyd eu hoes. (Hebreaid 2:14-15)
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod. (Hebreaid 4:15)
Daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
Er symud ein penyd a’n pwn;