Tymor yr Adfent 9
Un o eiriau mawr yr wythnosau hyn yw “Paratoi”. Yr her i ni yw gwneud yn siwr ein bod wedi paratoi yn ysbrydol. Er nad oes gwahaniaeth ysbrydol rhwng un diwrnod a’r llall, boed yn ddydd Nadolig, yn Sul y Pasg, neu’n ddiwrnod cyffredin ym mis Gorffennaf, mae’r adeg yma’n rhoi cyfle i ni oedi a pharatoi ein calonnau eto i Grist gael bod yn Arglwydd.
Yn llyfr y proffwyd Eseia clywn y geiriau: Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni. (Eseia 40:3). Yna pan ddaw’r angel at Sachareias, yr offeiriad, yn y deml i sôn am eni Ioan Fedyddiwr Dyma mae’n ei ddweud wrtho: Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i, ac i droi’r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i’r Arglwydd bobl wedi eu paratoi. (Luke 1:17)
Beth fedrwn ni ei wneud i ddiogelu nad yw’r holl bethau eraill rydym yn eu gwneud yn peri i ni anghofio’r paratoi mawr. Roeddwn yn darllen am un wraig benderfynodd mai’r hyn oedd yn rhaid ei wneud oedd anghofio popeth am gael coeden, gosod addurniadau, gwneud bwyd arbennig etc. Roedd hwn yn mynd i fod yn Nadolig efo Iesu a dim arall. Doedd ei phlant ddim yn rhyw hapus iawn, a go brin fod hynny’n angenrheidiol.
Roedd Ioan yn mynd i droi calonnau llawer yn ôl at yr Arglwydd eu Duw (Luc 1:16). Felly un cam syml yw ein bod yn gosod amser penodol heibio i fyfyrio ar ein perthynas â Duw. Meddyliwch gymaint o angen Gwaredwr sydd arnom ni. Myfyriwch ar yr hyn mae Immanuel – Duw gyda ni yn ei olygu.
Peth arall roedd Ioan yn mynd i’w wneud oedd troi calonnau rhieni at eu plant (Luc 1:17). Meddyliwch am eich perthynas â phobl eraill – ein teuluoedd yn sicr, ond hefyd ein cymdogion, ein ffrindiau, ein cyd-weithwyr. Felly os wyt yn cyflwyno dy offrwm wrth yr allor, ac yno’n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, 24 gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos ymaith; myn gymod yn gyntaf â’th frawd, ac yna tyrd a chyflwyno dy offrwm. (Mathew 5:23-24)
Yna clywn fod Ioan yn mynd i droi’r anufudd i feddylfryd y cyfiawn. Dyma gyfle i gymryd arolwg o’n bywyd a’n calon, er mwyn gwneud yn siwr, er nad oedd lle yn y llety i’r baban, fod gorsedd ein calon yn barod ar gyfer y Brenin. Dyma gyfle i edifarhau am ein ffyrdd anghyfiawn ac i geisio gras i fod yr hyn mae Crist am i ni fod.
Yn olaf, gadewch i ni fod yn ddisgwylgar. Os oedd y Gair tragwyddol yn barod i ddisgyn i orwedd mewn preseb, onid yw hefyd yn barod iawn i ddod o’r newydd i galon rhywun fel fi, sy’n awyddus i’w groesawu? Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda’n gilydd. (Datguddiad 3:20)