Tymor yr Adfent 11
“Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.”
Un o’r digwyddiadau hynny yn stori’r Nadolig cyntaf sydd wedi creu trafod mawr dros y blynyddoedd yw ymddangosiad y seren. Beth oedd hon? Ai comet, fel un Halley? Neu efallai mai cyfuniad o ddwy blaned yn ymddangos mor agos at ei gilydd fel bod eu golau’n cyfuno a disgleirio’n llachar? Mae’n ddirgelwch.
Yr hyn nad yw’n ddirgelwch yw pwrpas y seren. Fe ymddangosodd er mwyn tynnu sylw at y baban. Rhywsut roedd y sêr ddewiniaid wedi darllen hen ddogfennau oedd, mae’n debyg, wedi eu gadael ar ôl gan Iddewon wrth ddychwelyd i Jerwsalem o Fabilon ganrifoedd ynghynt. Roedd y doethion hyn wedi deall y byddai seren yn ymddangos i nodi geni Brenin yr Iddewon. Felly daethant i’w addoli. Dyma nhw’n cyrraedd Jerwsalem i ddechrau, gan feddwl mai yno y byddai’r brenin, ynghanol cyfoeth y ddinas a’i mawrion. Ond arweiniodd y seren hwy ymhellach. Dyna oedd ei phwrpas – eu harwain at y baban, ac yna diflannu nes ein bod methu gwneud mwy na dyfalu beth ddigwyddodd iddi.
A chyda dim ond pythefnos i fynd tan y diwrnod mawr, dyna yw ein gwaith ni. Mae pobl yn gyffredinol yn dechrau cynhyrfu bellach. Ein gwaith ni yw eu cyfeirio, fel y seren, at Iesu. Os ydyn nhw’n cael eu denu gan yr addurniadau a’r pethau eraill, rhaid i ni eu harwain ymhellach, o Jerwsalem i Fethlehem. Ond yn wahanol i’r Seren, cawn ni aros gyda nhw, i addoli a rhyfeddu at y baban ddaeth i fod yn Waredwr y byd.
Carol Seren Bethlehem
Pan gefaist ti dy danio
Wyddet ti, wyddet ti?
A’th osod ar dy gylchdro,
Wyddet ti
Y rheswm am d’oleuo
A’th ddanfon fyth i grwydro
Drwy’r gofod dro ac eildro,
Wyddet ti, wyddet ti?
I wybren dyn i deithio,
Wyddet ti?
A deithiaist ar dy union
Ato Ef, Ato Ef,
Drwy’r eangderau meithion
Ato Ef?
Draw heibio i Orïon,
Pleiades, Mawrth a Neifion
I gwmni yr angylion
Ato Ef, Ato Ef,
Uwch bryniau beichiog Seion
Ato Ef?
A synnaist ti o’i ganfod
Yn y crud, yn y crud?
Dy Grëwr yno’n ddinod
Yn y crud?
Bugeiliaid llwm yn trafod,
A’r doethion, mewn mudandod,
A Duw yn ceisio cysgod
Yn y crud, yn y crud,
A’r byd heb ei adnabod
Yn y crud.
Ar ôl goleuo’r beudy
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd,
I bellter oer y fagddu,
Rhaid oedd mynd;
Bodlonaist ar lewyrchu
Am ennyd, a diflannu,
I’w olau Ef dywynnu,
Rhaid oedd mynd, rhaid oedd mynd –
 Herod yn dadebru,
Rhaid oedd mynd.
© DMJ