Tymor yr Adfent 15
Ydi hi’n anodd i chi wahodd rhywun i gyfarfod yn y capel? Mae’n wir fod ymateb pobl i wahoddiadau’n gallu bod yn negyddol iawn. Mae ychydig yn wahanol adeg y Nadolig, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi rhyw sing-song o garolau un waith y flwyddyn.
Beth am atgoffa’n hunain o’r doethion welodd Seren Bethlehem fel gwahoddiad i ymateb iddo trwy deithio’n bell (wyddom ni ddim yn iawn pa mor bell) er mwyn dod o hyd i’r baban yn y preseb. Dyma gadwyn o englynion ysgrifennais i rai blynyddoedd yn ôl. Y syniad y tu ôl i’r gadwyn oedd fod ein byd ni adeg y Nadolig mor gyfforddus, gyda chiniawau i’w mwynhau, cyngherddau yn gwahodd, a rhaglenni ar y teledu yn cymell aros adref. Ond wrth ddychwelyd at yr hanes ei hun i weld y doethion, y bugeiliaid a’r angylion yn ymateb i’r newydd am eni Crist a’i ddiben yn dod i’n byd, yna’r peth rhesymol yw derbyn y gwahoddiad. Oherwydd mai gwahoddiad at berson yw hwn, a ffolineb o’r mwyaf yw peidio dod ato.
(Gair bach am yr englynion – mewn cadwyn o englynion mae gair neu syniad ar ddiwedd pob englyn yn cael ei ailadrodd ar ddechrau’r englyn nesaf, ac mae diwedd yr englyn olaf yn clymu gyda dechrau’r englyn cyntaf. Roeddwn, oherwydd gofynion y gynghanedd, wedi defnyddio hen air yn yr ail englyn, sef llar. Ei ystyr yw addfwyn.)
Gwelsom ei seren ef
Ai doeth wyf fi i deithio – a dilyn
Dy olau di heno
O gysur byd, i geisio
Disgleirdeb ei wyneb O?
Un wyneb yn fy nenu – un hiraeth
Yn arwain i’r beudy;
Un arwydd, ac un wyry,
Ac un llar yn geni llu.
Llu nefol fu’n llawn afiaith – yn galw’r
Bugeiliaid o’u noswaith;
A’r alwad yn glir eilwaith
Ddaw’n gry’ i’m denu i’r daith.
Taith bell yn cymell camu – o noddfa
Fy nghuddfan, i lechu
Dan wawl croes, dan olau cry’
Heulwen yn Ei ddatgelu.
Datgelu’n y gwely gwair – rhyw foddion
Rhyfeddol, a chywair
Newydd yn cyniwair
Yn y gwyll uwch geni’r Gair.
Y Gair glân – onid annoeth – ei wrthod
Am werthoedd fydd drannoeth
Yn ofer? Crist yw ‘nghyfoeth:
Am hyn dy ddilyn sy’ ddoeth.
©Dafydd M Job