Tymor yr Adfent 20
Mae’r ffilm The Hobbit yn y sinemáu yr wythnos hon. Tydw i ddim am fradychu’r plot i unrhyw un sy’n dymuno mynd i’w gweld. Ond gallaf ddweud ychydig heb roi dim byd o bwys i ffwrdd (Tydw i ddim wedi gweld y ffilm – dim ond wedi darllen y llyfr, a gweld yr hysbysebion).
Mae’r hanes yn dechrau gyda Bilbo Baggins – creadur sydd ddim o dras dynion – un o’r hobbits ydi o – creadur sy’n ymddangos yn ddynol, yn enwedig yn ei natur. Ond mae’n fach fel corrach, mae ganddo flew yn tyfu ar ei draed, ac mae’n hoffi aros gartref. Y peth gwaethaf allai ddigwydd iddo fyddai gorfod gadael ei gartref cysurus, wedi ei gloddio yn ochr y bryn yn Hobbiton.
Ond yna mae rhywbeth yn digwydd, ac er mawr syndod i bawb gan ei gynnwys ef ei hun, mae’n cychwyn allan ar antur. Mae rhywbeth yn ei berswadio ei fod am fynd i helpu criw o gorrachod ar anturiaeth fawr.
Er mai stori yw hon, mae yna gyfatebiaeth wrth i ni ddarllen hanes y geni yn y Beibl. Mae Joseff a Mair yn ddau fyddai’n siwr o gael bywydau digon cyffredin, ond yna mae rhywbeth yn digwydd sy’n peri i Mair gychwyn ar antur fawr – Dywedodd Mair, “Dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.”(Luc 1:38) . Ac er i Joseff oedi, fe fentrodd yntau gyda hi: A phan ddeffrôdd Joseff o’i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo.(Mathew 1:24)
Wrth gwrs mae eraill yn yr hanes sy’n mentro hefyd: daeth seryddion o’r dwyrain i Jerwsalem 2 a holi, “Ble mae’r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.”(Matthew 2:1-2) Nid trip i lawr y lon i’r adran famolaeth yn yr ysbyty leol oedd hon. Dyma deithio’n bell, efallai am wythnosau. Rhaid oedd wynebu Herod – un oedd yn enwog am ddial ar unrhyw un feiddiai fygwth ei frenhiniaeth. Ond roedd rhywbeth yn eu cymell.
Brysiodd y bugeiliaid i lawr o’r bryniau wedi eu cynhyrfu’n lân, wedi gadael eu defaid ac ar dân am gael gweld y bychan a anwyd. Roedd yn rhaid mynd ar ôl clywed neges yr angylion.
Yn ystod ei fywyd fe alwodd y baban hwn i bobl eraill adael eu safle cyfforddus i fentro ar ei ôl, ac fe adawodd y disgyblion eu rhwydau, Mathew ei dollborth, Mair Magdalen ei hysbrydion aflan. Do fe aeth llawer un annisgwyl ar antur i ddilyn Crist.
Beth amdanom ni? A wnawn ni aros yn ddiogel yn ein byd cysurus, ynteu a wnawn ni fentro dweud fel Bilbo Baggins: “I’m going on an adventure!”
Tua Bethlem dref
Awn yn fintai gref,
Ac addolwn Ef.
Gyda’r llwythau
Unwn ninnau
Ar y llwybrau
At y crud.
Tua’r preseb awn
Gyda chalon lawn
A phenlinio wnawn.
Wil Ifan