Tymor yr Adfent 21
Heddiw roedd amryw mae’n debyg yn disgwyl diwedd y byd. Yn ôl y calendr Mayan, roedden nhw’n tybied fod popeth yn mynd i ddirwyn i ben ar y diwrnod hwn. Nid dyma’r tro cyntaf i bobl fod yn disgwyl rhywbeth fel hyn i ddigwydd. Sawl tro mae gwahanol grwpiau – hyd yn oed Cristnogion – wedi tybied fod diwedd yr oes hon yn mynd i gyrraedd ar rhyw adeg arbennig neu mewn rhyw flwyddyn arbennig. (A hynny ar waethaf y ffaith fod yr Ysgrythur yn dweud yn glir nad yw’n perthyn i ni wybod yr amserau – tydyn nhw ddim wedi eu datgelu i ni.)
Ac nid crefyddwyr yn unig sydd wedi darogan gwae fel hyn. Mae sawl un ohonom yn cofio’r chwe degau a’r saith degau yn y ganrif ddiwethaf, pan oedd y rhyfel oer ar ei anterth, a phobl yn paratoi ar gyfer yr ymosodiad niwclear fyddai’n rhoi diwedd ar wareiddiad fel y gwyddom amdano.
Heddiw mae yna ofn y bydd terfysgwyr yn cael gafael ar ryw arf fydd yn difa’n gwareiddiad. Mae eraill yn darogan bydd cynhesu’r ddaear yn gwneud bywyd yn amhosib yn ein byd. Mae eraill yn pryderu am y pandemig sy’n mynd i ysgubo miliynau i ffwrdd i ebargofiant. Gallem ni gario ‘mlaen.
Rhyfedd yw meddwl fod dyfodol y byd yn dibynnu, nid ar chwim arlywyddion, neu gyfrwystra terfysgwyr, na hyd yn oed ar rymoedd natur. Mae dyfodol ein byd yn nwylo’r baban bach a anwyd ym Methlehem dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn ymddangos yn fwy rhyfeddol pan gofiwn na wnaeth y baban hwn erioed arwain gwlad na byddin. Treuliodd y rhan fwyaf o’i oes fel mab y saer lleol mewn pentref di-nod, cyn treulio tair blynedd fel rhyw bregethwr crwydrol. Yna cafodd ei ddienyddio’n gyhoeddus gan yr awdurdodau wedi ei fradychu gan un o’i brif gefnogwyr, a’r lleill i gyd wedi ffoi a’i adael yn ddiamddiffyn.
Ond am y baban hwn mae’r Ysgrythur yn dweud: Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. (Colosiaid 1:16)
Mewn man arall mae’n dweud: Adroddaf am ddatganiad yr Arglwydd. Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti, myfi a’th genhedlodd di heddiw; 8 gofyn, a rhoddaf iti’r cenhedloedd yn etifeddiaeth, ac eithafoedd daear yn eiddo iti fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd.” (Salm 2:7-9)
Y gwir yw na wyddom pa bryd daw diwedd ein byd, ond gwyddom bydd diwedd ein bywyd personol ni yn y byd yn dod i ben rywbryd. Y dydd hwnnw beth fydd yn cyfrif fydd ein perthynas gyda’r baban hwn a ddywedodd: “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. (Ioan 11:25-26)