Nadolig 2

Published by Dafydd Job on

Yn draddodiadol sonir am ddeuddeg diwrnod y Nadolig, felly dyma barhau gyda’r myfyrdodau.

A gawsoch chi eich bodloni ddoe? Dwi’n siwr bod llawer iawn o blant wrth eu bodd gyda’u anrhegion Nadolig, ac mae’n syndod pa mor hael y gallwn fod wrth ddangos i’n anwyliaid ein bod yn cofio amdanyn nhw adeg gŵyl y geni. Ac eto…

Cyn bod y diwrnod mawr drosodd roedd yna hysbysebion ar y teledu am arwerthiant yn dechrau yn y siopau mawr, ac mae nhw’n deud fod llawer wedi treulio rhan o’u diwrnod Nadolig yn edrych am fargeinion ar y we.

Mae hynny yn awgrymu rhywbeth i ni – nad ydym byth yn cael ein bodloni os mai edrych am bethau ydym. Mi fydd cynnwrf yr anrhegion newydd yn pylu, o leiaf erbyn canol Ionawr. Wedi’r dathlu rhaid edrych am rywbeth arall – bargen yn y Sale; gwyliau i edrych ymlaen ato fo; rhywbeth i’w wneud yn y flwyddyn newydd.

Ar y llaw arall, mae llawer ddoe wedi profi llawenydd sydd yn parhau, a rhyfeddod a fydd yn parhau drwy’r flwyddyn. Pam? Am ein bod yn gosod ein gobaith mewn mwy nag anrhegion. Rydym wedi gosod ein gobaith yn y Duw sydd wedi ein caru trwy ddod i’n byd mewn baban bach. Mae Morgan Rhys yr emynydd wedi ei osod yn berffaith i ni:

Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod
Yw’r ffordd a gymerodd Efe.

Nid rhywbeth i’w daflu ymaith fel teganau llynedd yw Cristnogaeth, ond perthynas gydag awdur bywyd ei hun. Dyna pam nad yw Cristnogion yn poeni na wyddom pa ddiwrnod yn union y ganwyd Crist. (Mae gen i syniad fod amryw sy’n darllen hwn heb unrhyw syniad pryd y ganwyd fi, ond rydych yn parhau i ddarllen gan obeithio fod gen i rhywbeth gwerth ei ddweud wrthych.)  Y peth pwysig yw ei fod wedi ei eni ar ryw ddiwrnod yn ein byd ni a’i fod wedi cymryd ein baich ar ei gefn ei hun i farwolaeth y groes trosom ni.

Ydi, mae’r llawenydd yn parhau, a’r rhyfeddu yn gafael ynom o hyd.

Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni’n llawn.
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘N eistedd ar yr orsedd fawr.

Categories: Nadolig