Nadolig 4
Neithiwr fe fuom ni’n gwylio drama ar y teledu – The Best of Men. Drama ddarlledwyd yn yr haf yw hon, ond cawsom ni ddim cyfle i’w gweld tan neithiwr. Mae’n olrhain y digwyddiadau yn Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr arweiniodd at sefydlu’r gemau Paralympaidd.
Mae’r ddrama yn cychwyn yn ddigalon tu hwnt. Mae’r uned i drin anafiadau i’r cefn yn llawn o ddynion a anafwyd yn yr ail ryfel byd. Mae nhw wedi eu dwyn yno i farw. Mae pob un ar Morphine i ladd unrhyw boen, ac mae nhw’n cael eu gadael i ddirywio.
Ond yna daw un gyda gweledigaeth i drawsnewid y sefyllfa. Dr Ludwig Guttmann o’r Almaen. Roedd wedi ffoi oddi yno, ac yn coleddu agwedd wahanol i drin y cleifion hyn. Mae’n gorfod brwydro gyda’r awdurdodau, y meddygon a hyd yn oed y cleifion i newid pethau. Ond mae’n llwyddo. A beth oedd ei gyfrinach? Roedd yn mynnu peidio gweld y cleifion yn nhermau eu hanafiadau difrifol. Roedd yn eu gweld fel dynion, a fyddai yn gallu dod i fyw bywydau cyflawn a defnyddiol ar waethaf eu hanableddau. Lle roedd gweddill cymdeithas am eu cuddio mewn cywilydd oherwydd eu cyflwr, roedd Ludwig Guttmann yn eu gweld fel the best of men. Gwelsom ffrwyth ei waith mewn modd arbennig iawn yn y gemau Paralympaidd eleni.
Mae’n syndod fel rydym ni’n gallu gweld ein gilydd mewn termau annigonol – yn ôl ein cyfoeth, ein doniau, ein beiau, ein ffaeleddau. Rydym yn arbennig o dda am gategoreiddio pobl sy’n wahanol i ni mewn rhyw ffordd (o ran iaith neu genedl hyd yn oed). Gallai Duw fod wedi ein categoreiddio ni yn nhermau’r ffordd rydym mor wahanol iddo. Mae Ef yn sanctaidd, a ninnau yn llawn beiau. Mae Duw yn ogoneddus mewn perffeithrwydd, a ninnau yn ofnadwy yn ein drygioni.
Ond mae Duw wedi dewis ein gweld mewn termau gwahanol. Mae wedi edrych arnom mewn trugaredd. Mae wedi ein gweld fel rhai y gall Ef ein newid i fod yn debyg i’w Fab. Gwrandewch ar yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y Beibl: Cyn seilio’r byd, fe’n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad. (Ephesiaid 1:4)
Mae’n bwysig ein bod yn glir nad gweld ein potensial ni wnaeth o, ond gweld ei botensial Ef ei hun i droi pechaduriaid yn saint. Ei waith ef yw hyn o’r dechrau i’r diwedd. Mae Paul yn sôn am aruthrol fawredd y gallu sydd ganddo o’n plaid ni sy’n credu, y grymuster hwnnw a gyflawnodd yng ngrym ei nerth yng Nghrist pan gyfododd ef oddi wrth y meirw, a’i osod i eistedd ar ei ddeheulaw yn y nefolion leoedd. (Ephesiaid 1:19-20)
Mae Duw’r Tad yn ein dewis. Mae Duw’r Mab yn dod i farw drosom a thalu iawn am ein beiau, ac yna mae Duw’r Ysbryd yn gweithio ynom i’n bywhau, i gymhwyso gwaith y Mab i ni, ac yna’n ein newid. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn. (2 Corinthians 3:18 – 4:1)
Oherwydd hyn gallwn ddweud fod digwyddiadau Bethlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl yn dylanwadu’n dyngedfennol arnom ni heddiw.
Nid er ei fwyn ei hunan y daeth i lawr o’r ne’
Ond rhoi ei hun yn aberth dros eraill wnaeth Efe.