Nadolig 7
Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn mae’n beth naturiol i ni edrych yn ôl ar y deuddeg mis a aeth heibio, gan geisio tafoli’r cwbl sydd wedi digwydd. Yn gyffredinol yn y wlad mae llawer wedi ei gweld hi fel blwyddyn i’w chofio. Bu Brenhines Lloegr yn dathlu ei jiwbilî; Bu’r gemau Olympaidd a Paralympaidd yn llwyddiant ysgubol, gan godi ysbryd llawer o bobl y wlad ynghanol yr argyfwng economaidd dwys sydd wedi gafael ynom.
Yn bersonol un o uchafbwyntiau’r flwyddyn imi yn ddiamau oedd dod yn Dadcu am y tro cyntaf.
Ond i eraill bu’n flwyddyn o ofid. Meddyliwn er enghraifft am deulu April Jones ym Machynlleth, i enwi dim ond un achos tristwch a ysgydwodd y wlad.
Dyna yw bywyd – mae yna gymysgedd o lawenydd a gofid. Ond mae yna un nodyn cyson i Gristnogion. Mae’r cwbl dan law a rheolaeth yr Un sy’n gwarantu fod pob dim yn cydweithio er daioni i’r rhai sy’n caru Duw. Mae gras yn llifo’n gyson o orsedd y nef tuag atom.
Ond sut ydym i dafoli’r flwyddyn? Dyma chi rai cwestiynau y gallwn ni holi ein hunain wrth edrych yn ôl, fydd yn gymorth i ni osod y cwbl yn ei le:
1) Ym mha bethau cawsom galondid yn ystod y flwyddyn?
2) Pa bethau oedd yn anodd neu yn siom i ni?
3) Ym mha ffordd mae ein profiad a’n hadnabyddiaeth o Dduw wedi ei ddyfnhau yn y deuddeg mis diwethaf?
4) Oes yna bethau rydym wedi eu dysgu am Dduw?
5) Oes yna bethau rydym wedi eu dysgu amdanom ni ein hunain?
6) Pa agwedd o ffrwyth yr Ysbryd sydd wedi cynyddu ynom yn ystod y flwyddyn? (Galatiaid 5:22)
7) Ydym wedi defnyddio rhyw ddawn i ddwyn gogoniant i Dduw?
8) Pwy sydd wedi bod yn fendith i ni?
9) Pwy ydym ni wedi eu bendithio yn y flwyddyn 2012?
10) Pa rannau o’r Ysgrythur sydd wedi bod yn arbennig o werthfawr i ni?
Efallai bydd gennych chi gwestiynau eraill y byddwch yn hoffi eu holi. Ond mae’n beth da peidio rhyw ddrifftio yn ddi-feddwl o un flwyddyn i’r llall.
Wrth i un flwyddyn ddod i ben, ac i un arall gychwyn, gadewch i ni eto gofio bod ein dyddiau a’n munudau yn nwylo Un arall, a’n bod yn ddoeth i ymddiried ein hunain iddo o ddydd i ddydd.