Albania 4

Published by Dafydd Job on

Heddiw byddaf yn symud i Elbasan am yr wythnos. Mae gan y myfyrwyr yn y Brifysgol yno ymgyrch yn ystod y dyddiau nesaf, a bydd disgwyl i mi siarad yn eu cyfarfodydd. Rydym yn gobeithio cyrraedd yno erbyn cinio heddiw. Hyd y gwn dyma’r cynllun ar gyfer y tri diwrnod nesaf:

Yn y boreuau mae’r myfyrwyr sy’n rhydd yn gwahodd eu ffrindiau i fan canolog ar gampws y coleg lle bydd byrddau wedi eu gosod a choffi ar gael. Y bwriad yma fydd cael sgyrsiau anffurfiol gydag anghredinwyr yn arwain at faterion ysbrydol a’r efengyl. Amser cinio cynhelir bar cinio, lle cynigir bwyd am ddim wedi ei baratoi yn un o’r eglwysi lleol. Yma bydd sgwrs fer yn cael ei rhoi am y ffydd.

Am 5.00 bydd y prif gyfarfod a disgwylir i mi roi sgwrs fwy sylweddol yma yn cyflwyno’r ffydd. Yna min nos bydd chwaraeon megis pêl droed yn cael eu cynnal i’r myfyrwyr gael hwyl anffurfiol gyda’i gilydd. Dydd Iau nid oes cyfarfodydd wedi eu trefnu gan ei fod yn ddydd o wyliau cenedlaethol. Nid wyf wedi cael gwybod beth fydd cynllun dydd Gwener eto.

Fy sgyrsiau dros y tri diwrnod nesaf fydd:
Heddiw – Am beth ydym yn chwilio?
Fory – Chwilio am wirionedd.
Dydd Mercher – Chwilio am gariad.

Diolch am weddïo