Tymor yr Adfent v
Mae Cristnogion gyda thuedd i gwyno yn y wlad hon ein bod yn cael ein gwthio i’r ymylon. Mae’r hawl i gyhoeddi ein neges yn cael ei fygwth. Rydym yn clywed am bobl ddim yn cael gwisgo croes i’r gwaith, neu am rai sy’n pregethu ar y stryd yn cael eu harestio a’u cyhuddo o ryw drosedd neu gilydd.
Tydw i ddim yn dweud y dylem beidio ceisio’r hawl i arddel ein ffydd yn gyhoeddus, ond gadewch i ni gofio nad y gwleidyddion neu’r rhai sy’n sôn am gywirdeb politicaidd yw’r rhai sy’n dal yr awenau. Rydym ni yn nwylo y Duw goruchaf. Dyma’r un sydd wedi cynnal ei saint ar waethaf gwrthwynebiad ffyrnig, o ddyddiau Cesar ac ymherodraeth Rhyfain i ddyddiau Kim Jong-un yng Ngogledd Korea.
A’r mis hwn mae yna gyfleon arbennig i’r hanes am Iesu fynd ar led. Bydd stori’r geni yn cael ei berfformio mewn llu o ysgolion. Bydd pobl yn clywed darlleniadau mewn gwasanaethau carolau ar hyd a lled ein gwlad. Bydd pobl yn canu carolau, lle mae geiriau llawn gwirioneddau dwfn am efengyl Duw yn cael eu gosod ar eu genau. Mae perfformiadau o’r Meseia yn cael eu cynnal. Mae cyflwyniad o’r Beibl ar y teledu bob nos Sadwrn. Bydd pobl hyd yn oed wrth siopa yn gallu clywed geiriau gwych rhai o’r emynau.
Mae Duw yn gallu cymryd y geiriau hyn a’u selio yn ddwfn ar galonnau pobl. Cymrwch chi Paul yr Apostol yn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf. Roedd yn ceisio dod o hyd i le i rannu’r newyddion da am Iesu, felly fe aeth at lan yr afon lle roedd rhai yn mynd i weddïo. Doedd y gynulleidfa hyd y gwyddom ddim yn fawr. A bod yn onest doedd dim llawer o ymateb yn y rhan fwyaf oedd yno. Ond roedd yna un wnaeth wrando ar y pregethwr tramor hwn, ac fe ddigwyddodd rhywbeth. Mae’r Beibl yn dweud wrthym fod yr Arglwydd wedi agor ei chalon i ddal ar y pethau roedd Paul yn eu dweud. Dim ond ychydog eiriau efallai, ond fe dreiddiodd y geiriau hynny i’w chalon. (Mae’r hanes yn Llyfr yr Actau 16:11-15)
Mae’r Beibl yn dweud fod Gair Duw yn fyw a grymus (Hebreaid 4:12), ac mae’r Ysbryd Glân yn gallu cymryd y gwirionedd sydd yn y carolau neu’r darlleniadau a gafael yng nghalonau’r gwrandawyr. Dyma gyfle arbennig a rhyddid mawr i rannu’r newyddion am Iesu.
Gadewch i ni weddïo y bydd Duw yn cymryd ei air ac yn torri trwodd i galon rhyw rai annisgwyl heddiw. Ac os cawn ni gyfle i wahodd rhywun i wasanaeth Nadolig, neu i rannu ein llawenydd ninnau, gadewch i ni gymryd y cyfle. Nid cwyno yw’r gwaith priodol i blant y Brenin Mawr.