Tymor yr Adfent vi
Un peth fydd yn llenwi’r newyddion heddiw ar y teledu a’r papurau newyddion – Marwolaeth Nelson Mandela. Dyma ddyn ddaeth yn arwr byd yn sgîl ei benderfyniad i geisio torri cylch atgasedd yn Ne Affrica. Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol.
Gallwn ei gymharu â phobl arbennig arall yn ein byd. Yn y gorffennol cymharwyd ei hanes gyda hanes Joseff – yn cael ei godi o’i gell yn y carchar i sefyllfa o awdurdod dros y wlad. Eisioes mae teyrngedau neithiwr a heddiw yn ei osod yn yr un dosbarth â Martin Luther King, Mahatma Ghandi ac eraill.
Mae yna le i ddiolch am arweinwyr sy’n troi yn arwyr oherwydd yr effaith bositif mae nhw’n ei gael. Ond mae yna ben draw ar yr hyn y gallwn ei ddisgwyl oddi wrth ddynion. Cyfaddefodd Mandela ei hun ei fod yn methu. Rhaid edrych am rhywun arall i ateb ein anghenion dyfnaf. Dyma sy’n gosod Iesu arwahán i rai fel Mandela. Nid yw Iesu yn well, ac felly ar frig y dosbarth. Mae mewn dosbarth ar ei ben ei hun. Dyna un rheswm pam rydym yn dathlu ei eni dros ddwy fil o flynyddoedd wedi’r digwyddiad.
Fel Mandela roedd Iesu’n byw yn y byd real, wyneb yn wyneb â thlodi a chreulondeb dyn. Ond yn wahanol i Mandela, “Ni wnaeth ef bechod, ac ni chafwyd twyll yn ei enau.” (1 Pedr 2:22) Roedd yn “un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.” (Hebreaid 4:15)
Fel Mandela fe gafodd Iesu ei gondemnio gan lywodraeth ei ddydd. Ond yn wahanol i Mandela, ni chafodd ei ryddhau o’r carchar. Fe’i cymrwyd o’i gell i groes.
Fel Mandela fe geisiodd gymod gyda’i elynion. Ond yn wahanol i Mandela, nid dweud “Let bygones be bygones” oedd ei ymateb i ddrygioni, ond dwyn holl erchyderau canlyniad gwrthryfel dyn yn ei gorff ei hun ar y groes.
Fel Mandela, bu farw a pharatowyd bedd ar ei gyfer. Ond yn wahanol i’r hyn a ddigwydd i Mandela, fe atgyfododd y trydydd dydd yn goncwerwr marwolaeth ar ein cyfer ni.
Mae yna bethau ym mywyd yr arweinydd diymhongar o Dde’r Affrig y gallwn eu hedmygu a’u hefelychu. Mae yna egwyddorion yn ei fywyd y gallwn eu cofleidio. Ond yn wahanol i hwn, mae Iesu yn un y gallwn ymddiried ynddo, a’i gofleidio fel ein Gwaredwr.