Tymor yr Adfent vii
Un o’r pethau sydd wedi bod ar y newyddion y dyddiau diwethaf yw’r olygfa dorcalonnus o gartrefi wedi eu hysgubo ymaith gan y stormydd ar arfordir dwyrain Lloegr. Roedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau.
Tra’n cydymdeimlo’n fawr gyda’r rhai sydd wedi colli eu cartrefi, mae’n anodd peidio cofio am ddameg y Gwaredwr ar ddiwedd y bregeth ar y mynydd:
“Pob un felly sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof ac yn eu gwneud, fe’i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig. 25 Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig. (Mathew 7:24-27 BCN) 26 A phob un sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof a heb eu gwneud, fe’i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod. 27 A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp.”
Un manylyn sy’n aml yn cael ei anghofio gyda’r ddameg hon yw ei fod wedi ei chyfeirio at bob un sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof – at y rhai sydd wedi clywed geiriau Crist. Rydym ni sy’n Gristnogion yn dueddol o bwyntio bys at y rhai y tu allan i’r eglwys wrth sôn am adeiladu bywyd ar y tywod. Mae’n wir y bydd llawer o’r tu allan yn gwrando ar eiriau Crist mewn gwasanaethau amrywiol dros yr ŵyl.
Ond beth amdanom ni sy’n gwrando ar ei eiriau o Sul i Sul yn ein heglwysi, ac o ddydd i ddydd yn ein defosiwn personol? Oes gan y geiriau hyn rhywbeth i’w ddweud wrthym ni? Yn arbennig, ga i ofyn y cwestiwn, ar beth fydd eich dathlu chi a finnau wedi ei adeiladu yn ystod yr ŵyl? A fydd ein teulu, ein cymdogion a’n cyd-weithwyr yn ymwybodol o’r rheswm am ein llawenydd?
Ymateb rhai i’r her hon yw ymwrthod â phob rhan o’r Nadolig seciwlar. Tydw i ddim am eu beirniadu o gwbl. Mae eraill yn mwynhau ymroi i’r hwyl, ond yn teimlo ychydig o euogrwydd, gan feddwl y dylen nhw fod yn fwy ysbrydol. Mi greda i mai’r ffordd i gadw’n perspectif yn ystod y dathlu yw trwy fyfyrio ar y Gwaredwr ei hun. Pan fyddwn wedi ein llenwi â rhyfeddod ei gariad, ei ostyngeiddrwyd, ei barodrwydd i ddod i’n byd er ein mwyn a’i ogoniant, yna bydd y cyfan a wnawn yn tarddu o’r rhyfeddod hwnnw.
Y mae’r sawl sy’n cadw’r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a’r sawl sy’n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae’n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae’r un sy’n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae’n rhoi diolch i Dduw. (Rhufeiniaid 14:6 BCN)