Tymor yr Adfent viii
Yn arferol mae’r Sul yn ddiwrnod i orffwys oddi wrth ein cyfrifoldebau arferol. Mae’n gallu bod yn ddiwrnod i anadlu ynghanol prysurdeb bywyd. Ond bydd y Sul hwn i rai yn bur wahanol i’r arfer. I rai mae’n ddiwrnod o gyfrif cost y llifogydd yr wythnos a aeth heibio. Mae rhai yn arbennig wedi colli eu cartrefi yn swydd Norfolk, a bydd yna edrych yn bryderus i’r dyfodol gyda chwestiynau mawr am sut mae ei wynebu.
Pa gysur all y Nadolig ei gynnig i rai fel hyn, sydd wedi colli gymaint? All y Nadolig seciwlar ddim cynnig unrhyw gymorth. Yr unig beth fydd hwnnw’n ei wneud yw pwysleisio gymaint sydd wedi ei golli – bydd pawb arall yn mwynhau eu coeden, eu twrci a’u anrhegion tra byddant hwy heb ddim.
Ond mae Nadolig y baban Iesu yn dweud wrthym am Un a ddaeth i rannu ein gofid a’n cur. Dyma neges sy’n wynebu problemau ein byd, gan ystyried ein hangen o ddifrif. Dyma Dduw a adawodd ddiogelwch y nefoedd i brofi realiti bywyd digroeso. Ac wrth wynebu y storm waethaf ar groes Calfaria, fe olygodd nad oes rhaid i unrhyw un ohonom ni fod yn unig a diymgeledd ynghanol stormydd bywyd.
Mae’r Sul hwn i un teulu yn yr Unol Daleithiau yn sicr yn anodd – i Anita Smith a’i mab ifanc yn Texas mae’n ddydd o alar – yr wythnos hon cafodd ei gŵr, Ronnie, ei saethu’n farw yn Benghazi, Libya, wrth iddo fynd i redeg yn y bore. Terfysgwyr Islamaidd sy’n debyg o fod yn gyfrifol, gan eu bod yn ddiweddar wedi galw am gipio a lladd dinasyddion America. Roedd Anita newydd ddod adref gyda’u mab, tra roedd Ronnie wedi aros i helpu myfyrwyr roedd yn eu dysgu i wynebu arholiadau. Ei fwriad oedd ymuno gyda’i deulu yn y dyddiau nesaf.
Ond os mai dydd o alar yw hi, nid dydd heb obaith. Roedd Ronnie ac Anita wedi mynd i Libya i rannu cariad Crist gyda phobl y wlad. Roedd yn parháu i gynnig gwersi am ddim pan roedd llawer wedi troi cefn ar y myfyrwyr. Tystiolaeth un o’i fyfyrwyr oedd – “Roedd yn fwy nag athro i ni – roedd yn frawd i ni.”
Mewn fideo cyn mynd allan yn fe ddywedodd: “If there’s any single person in the entire universe that you can take a chance on, it’s God.” Aeth yno yn ymddiried yn yr Arglwydd, ac mae Anita’n derbyn cysur ei fod bellach yn nwylo ei Waredwr yn y nefoedd. Nid bywyd wedi ei wastraffu oedd hwn, ond bywyd wedi ei roi i’r Un ddaeth yma er ein mwyn.
Felly dyma gyfieithiad o garol sy’n sôn am yr Un a’n carodd.
Daeth un o gyfoeth nefoedd bur,
Drwy gariad i wneud ei hun yn dlawd;
Ildio’i orseddfainc, goddef cur
Creawdwr y byd a ddaeth mewn cnawd;
Daeth un o gyfoeth nefoedd bur,
Drwy gariad i wneud ei hun yn dlawd.
Un sydd yn Dduw uwchlaw pob bri
Oll er ein mwyn a ddaeth yn ddyn;
Plygodd yn isel, cododd ni
I’r nefoedd drwy gynllun gras ei hun;
Un sydd yn Dduw uwchlaw pob bri
Oll er ein mwyn a ddaeth yn ddyn;
Ti yw y cariad, uwch pob clod,
Brenin a Thad, addolwn Di;
Emaniwel o’n mewn yn bod,
O! Adfer dy ddelw ynom ni;
Ti yw y cariad, uwch pob clod,
Brenin a Thad, addolwn Di;