Tymor yr Adfent ix

Published by Dafydd Job on

Mae yna fwrdd yn ein tŷ ni sydd ar hyn o bryd wedi diflannu dan lwyth o bapur lliwgar, sellotape, a chardiau. Un o’r gorchwylion yr adeg hon yw lapio’r anrhegion. Mae rhai yn gweld hyn yn orchwyl diflas, ond mae eraill yn cael mwynhád o gymeryd anrheg, dewis papur gyda rhyw batrwm nadoligaidd a’i dorri i faint cyfatebol, ac yna lapio’r anrheg yn download (2)ofalus, gan feddwl am y person wnaiff dderbyn y rhodd. Mae yna rhyw fwynhád arbennig os oes modd cuddio siap yr anrheg, rhag i’r un sy’n ei dderbyn fedru dyfalu beth sydd ynddo o flaen llaw. (Mae hyn ychydig yn anodd os mai beic yw’r rhodd!) Un gêm mae llawer yn ei chwarae ydi ceisio dyfalu beth sydd wedi ei guddio dan y papur sgleiniog cyn ei agor.

Mae ein gwaith ni sy’n dilyn y Gwaredwr yn bur wahanol. Nid lapio a chuddio’r anrheg yw ein cyfrifoldeb ni. I’r gwrthwyneb gyda’r Nadolig, ein tasg ni yw dadorchuddio’r ystyr, a dangos mewn ffordd mor eglur ag sydd bosib beth yw’r anrheg mae Duw wedi ei roi i’n byd. Nid Nadolig gift-wrapped yden ni am ei roi i bobl. Rhywsut mae angen ffeindio ffordd drwy’r trimings sy’n llenwi’r adeg yma o’r flwyddyn at yr Un a anwyd, ac at y rheswm y cafodd ei eni i’n byd.

Mae gennym gof am Nadolig yn ein tŷ ni flynyddoedd on ôl – Nadolig cyntaf ein plentyn cyntaf. Roeddem wedi dewis yr anrhegion yn ofalus, ac wrth gwrs, gan mai cwta chwe mis oedd ei oed, doedd o’n deall dim o’r hyn oedd yn digwydd. Roeddem yn mynd ychydig yn rhwystredig ar fore Dydd Nadolig – roedd yn dangos mwy o ddiddordeb yn y papur lapio lliwgar nag yn y trên roeddem wedi ei brynu iddo. A dyna sy’n gallu bod yn rhwystredig wrth i ni geisio tynnu sylw pobl. Mae nhw’n mwynhau tiwn y garol yn fwy na’r geiriau. Mae nhw’n gallu mwynhau gweld y plant yn actio yn fwy na rhyfeddu at Dduw yn gweithredu i’n hachub. Mae nhw’n gwerthfawrogi ein croeso ni yn fwy na chroeso Duw.

Ond a bod yn onest, fe fedrwn ninnau gwympo i’r un bai. Felly gadewch i ni fyfyrio ar ystyr yr ŵyl gymaint nes y byddwn wedi ein cyfareddu gan gariad syfrdanol ein Ceidwad. Yna bydd ein rhyfeddod ni troi yn rhywbeth heintus fydd yn denu eraill heibio’r trimings at yr Anrheg mawr.