Tymor yr Adfent xi

Published by Dafydd Job on

Mae a wnelo deall y Nadolig â deall ein cyflwr ni. Mae’r Beibl yn rhoi’r urddas mwyaf i ni, oherwydd rydym yn darllen yn y bennod gyntaf oll ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw. Mae yna rhywbeth amdanom ni sy’n ein gosod arwahán i weddill y creaduriaid. Mae nhw’n dangos creadigrwydd a gallu Duw, fel mae darlun yn gallu dangos dawn arlunydd. Ond rydym ni wedi ein creu i fod yn fwy, fel hunan-bortread lle mae’n dangos ei natur ei hun.

Rhan o’r ddelw hon yw ein bod wedi ein creu i fod mewn perthynas – Dywedodd yr Arglwydd Dduw hefyd, “Nid da bod y dyn ar ei ben ei hun; gwnaf iddo ymgeledd cymwys.” (Genesis 2:18 BCN)  Fel mae Duw ei hun yn dri Person mewn un Duw – yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân – mewn perthynas dragwyddol â’i gilydd, felly rydym ninnau fod mewn perthynas – perthynas â’n gilydd a pherthynas â’n Crëwr.

300px-Jordaens_Fall_of_manY broblem a welwn ni wrth edrych ar ein byd yw fod trafferth yn gyson ym mherthynas pobl â’i gilydd. Mae’r newyddion yn llawn o drafferthion – heddiw yn Iwcraen, ddoe yn Central African Republic, yfory yn rhywle arall – pobl yn rhyfela. Yn agosach gartref mae’r un peth i’w weld yn ein bywyd o ddydd i ddydd. Yr hyn sy’n gwneud bywyd yn anodd yw perthynas sydd ddim yn iawn rhyngom ni ag un o’n cydnabod.

Eglurhad Genesis ar hyn yw fod ein perthynas â Duw wedi ei ddifetha. Pan gymrodd Efa o ffrwyth y pren roedd Duw wedi dweud na ddylai, ac Adda yn ymuno gyda hi, yna fe ddigwyddodd rhywbeth i newid ein natur. Ein identiti amlycaf ddylai fod ein bod yn adlewyrchiad o Dduw, ond bellach ein nodwedd amlycaf fyddai ein bod allan o berthynas â Brenin y bydysawd. Mae Duw yn bell, yn ddieithr, yn ddychryn.

Dyna pam fod y Nadolig yn newyddion angenrheidiol i’n byd ni – Emaniwel – Duw hyda ni a’r berthynas wedi ei hadfer yw’r gobaith i fedru adfer ein perthynas â’n gilydd.

Dyna pam fod nifer o’r hen garolau yn sôn am ardd Eden. Yno fe ddifethwyd ein natur, ond yno hefyd fe roddwyd yr addewid y byddai Duw yn ein trwsio. Yno fe gyhoeddodd Duw wrth y sarff a dwyllodd Efa: “Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15 BCN) Yno felly fe gyhoeddodd Duw nad oedd am droi cefn arnom er i ni grwydro’n bell oddi wrtho. Y cariad yma esgorodd yn llythrennol ar Iesu Emaniwel, yr hyn o’i gyfieithu yw Duw gyda ni.

Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I gael dihangfa o ddrygau’r ddraig
Mewn addewid gynt yn Eden,
Fe gyhoeddwyd Had y wraig;
Ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,
Ffordd i godi’r meirw’n fyw;
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw.

Ann Griffiths.