Tymor yr Adfent xiii
Mae’r eglwys wedi bod yn dda iawn ar adegau am gau pobl allan. Dim ond y parchus sy’n dderbyniol. Dim ond y rhai sydd wedi dod i fyny i’r safon sy’n cael dod i mewn. Mae wedi llwyddo i roi yr argraff i gymaint nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas sy’n dwyn enw Iesu Grist. Mae yna rhyw eironi torcalonnus am hyn o ystyried neges y Beibl.
Fel yr ysgrifennais ddoe (Tymor yr Adfent xii) fe gaewyd Adda ac Efa allan o Eden, ac yn sgîl hynny rydym i gyd wedi darganfod ein bod yn alltudion. Rydym i gyd wedi ein cau allan. Does dim iws beio ein rhieni cyntaf ychwaith, oherwydd er fod Pedr yn dweud ein bod wedi etifeddu natur wrthryfelgar (1 Pedr 1:18), rydym ni wedi dyblu ein condemniad trwy yr hyn rydym wedi dewis ei wneud. Fedrwn ni ddim cuddio y tu ôl i haen o barchusrwydd, neu ymddangosiad allanol o dduwioldeb. Mae’r rhai sy’n sefyll ar eu hunan-gyfiawnder yn twyllo eu hunain, oherwydd does neb ohonom ni yn gyfiawn. Mae’r crefyddwr yn yr un cwch â’r troseddwr – rydym oll yn galley-slaves a’r un sy’n llywio’r llong yw’r diafol.(Effesiaid 2:2).
Yr unig obaith i ni yw fod Duw yn agor y drws yn ôl i ni. Pan edrychwn ar y Beibl dyma welwn – mae Duw yn addo “had y wraig” i ysigo pen y sarff ddaru ein twyllo (Genesis 3:15). A phwy fydd yn cael gwahoddiad i ddod yn ôl? Mae’r gwahoddiad yn eang tu hwnt. Dywedodd wrth Abraham: “Bendithiaf y rhai sy’n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy’n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau’r ddaear.” (Genesis 12:3)
Pan edrychwn ni ar y rhai gymerodd Duw i mewn i’w gynllun yn yr Hen Destament hyd yn oed fe welwn y criw ryfeddaf, y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn eu cael yn anodd eu croesawu i’r heglwysi. Roedd Jacob yn ben teulu cwbl afreolus a thoredig. Dyna Jwda wedyn oedd yn hapus i ymweld â phutain (Genesis 38). Roedd Rahab yn butain; roedd Ruth wedi ei magu mewn cymdeithas oedd yn aberthu eu plant; roedd Dafydd yn odinebwr. Gallem amlhau’r rhestr.
Edrychwch wedyn ar y Testament Newydd. Dyna chi Iesu yn cael ei gondemnio am fod yn gyfaill pechaduriaid. Roedd Mair Magdalen yn un feddiannwyd gan saith o ysbrydion drwg; roedd Sacheus yn dwyllwr a bradwr i’w wlad. Mor aml y clywn Iesu yn rhoi’r gwahoddiad eang hwnnw – “Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi. (Mathew 11:28) “Pwy bynnag sy’n sychedig, deued ataf fi ac yfed”. (John 7:37)
Fedr neb ddweud nad yw’r gwahoddiad iddyn nhw. Edrychwch ar y rhai gafodd groeso yn eglwys Corinth: puteinwyr, eilunaddolwyr, godinebwyr, rhai sy’n ymlygru â’u rhyw eu hunain, lladron, rhai trachwantus, meddwon, difenwyr, chrib-ddeilwyr, (1 Corinthiaid 6:9-10)
Wrth gwrs, dyw’r gwahoddiad ddim yn golygu ein bod i aros yn ein gwrthryfel. Gwahoddiad i gael ein newid yw hwn. Dyna ddigwyddodd yng Nghorinth – dyna oedd rhai ohonoch chwi; ond yr ydych wedi’ch golchi, a’ch sancteiddio, a’ch cyfiawnhau trwy enw’r Arglwydd Iesu Grist, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. (1 Corinthiaid 6:11 BCN) Geiriau’r Gwaredwr wrth y wraig a ddaliwyd mewn godineb, wedi iddo beidio a’i chondemnio, oedd “Dos, ac o hyn allan paid â phechu mwyach.” (Ioan 8:11 BCN)
Ond nid newid, ac yna dod at Iesu yw’r drefn – dod mewn edifeirwch a gadael i Grist ein newid. Tybed oes yna rywun sy’n darllen hwn sy’n meddwl nad yw’r Nadolig yn newyddion da i ti? Gwrando eto ar eiriau’r Beibl:
Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. 17 Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef. (Ioan 3:16-17 BCN)