Tymor yr Adfent xiv
Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod.
Ar y llaw arall, sut mae gwahaniaethu rhwng rhamant y dyn barfog mewn siwt goch, sy’n eistedd ar y to ar bwys y simne fawr, â’r hanes am Iesu a’i enedigaeth. Mae rhai yn cael hanes y geni yn fwy anhygoel. Cymrwch y cenhedlu gwyrthiol i ddechrau. Pwy glywodd am blentyn yn cael ei eni heb dad naturiol? Yna mae’r angylion, a’r seren a’r doethion o’r dwyrain. Onid mytholeg glasurol yw hyn i gyd wedi ei greu gan yr eglwys i ddyrchafu Iesu o fod yn ddyn cyffredin? Sut fedr neb gredu’r fath nonsens?
Mae yna nifer o resymau pam ddylem gredu’r hanes am Iesu. Yn gyntaf, mae’n wir fod yna bethau anarferol yn digwydd yn yr hanes. Ar y llaw arall, mae’r ffordd mae’r hanes wedi ei ysgrifennu yn wahanol iawn i straeon mytholegol arall y cyfnod. Mae yna fanylion yn yr hanes – am leoliad, am y rhai oedd yn llywodraethu, ac am arferion yr oes sy’n ei osod mewn dosbarth gwahanol i fytholeg glasurol. Mae wedi ei ysgrifennu fel hanes go iawn. (Mae Dr Peter Williams ac eraill yn Tyndale House wedi gwneud gwaith dadansoddol mawr ar hyn yn ddiweddar)
Yn ail, os yw’r hanes yn ymddangos yn anhygoel i ni, mae’n amlwg ei fod yn anhygoel i’r rhai oedd yno ar y pryd hefyd. Cymrwch chi ymateb Sechareias i’r angel Gabriel a’i neges (Luc Pennod 1). Ei ymateb cyntaf oedd anghrediniaeth llwyr. Ar ddechrau efengyl Mathew gwelwn fod Joseff wedi ymateb fel y byddech chi a fi yn ei wneud pan glywodd fod ei ddyweddi’n disgwyl plentyn. Cymrodd yn ganiatáol i Mair fod yn anffyddlon. Doedd dim cwestiwn o gredu ei stori hi am ymweliad angel. Yr unig ffordd y cafodd ei berswadio i’w derbyn oedd trwy gael ymweliad nefol ei hunan. Mae stamp y gwirionedd ar yr hanes.
Yna rhaid gofyn, ydi’r hyn sy’n cael ei gofnodi yn afresymol? Mae’r hanes yn anarferol, ond os oes yna Dduw sydd uwchlaw’r greadigaeth, mae rheswm yn dweud y gallai hwnnw ymyrryd yn ein byd. Ni fyddai Duw sy’n grëwr hollalluog wedi ei gyfyngu i reolau arferol natur. Byddem yn disgwyl i bethau gwahanol ddigwydd pe byddai’n dymuno gweithio yn ein byd. Arwydd o ymyrraeth oruwchnaturiol fyddai bod yna ddigwyddiadau anarferol – negeseuwyr nefol yn cael eu danfon; astronomyddion y dydd yn nodi seren newydd; cenhedlu gwrthiol. Y syndod yw nad oedd mwy o bethau anarferol wedi eu cofnodi.
Efallai mai’r ddadl fwyaf o blaid geirwiredd yr hanes yw, pwy yw’r tystion i hyn i gyd. Bellach mae’r rhan fwyaf o ysgolheigion yn cydnabod fod y Testament Newydd wedi ei ysgrifennu yn gynnar iawn. Byddai’r rhai welodd y digwyddiadau yn dal yn fyw, neu mi fyddai’r rhai oedd yn blant a disgyblion iddyn nhw’n dal yn fyw, ac yn gallu cadarnhau neu wrthod yr hanes. (Nid oeddwn i yn fyw yn ystod yr ail ryfel byd, ond pan glywa i rai o eithafwyr adain dde yn gwadu bod yr holocost wedi digwydd, mi wn fod yna ddigon a minnau yn eu plith fydd yn gwrthod y celwydd.) Mae’r dystiolaeth yn llethol o blaid credu mai dyma oedd yr hyn a honnai Mair, Pedr a’r disgyblion.
Sut berson oedd Mair? Sut rai oedd y disgyblion? Oedden nhw’n bobl y gellid eu trystio? Dyma rai gollodd eu bywydau oherwydd eu cred bod y pethau hyn yn wir. Rhai ddaru ymateb i erledigaeth enbyd trwy garu eu gelynion oedden nhw. Tydyn nhw ddim yn ymddangos fel rhai fyddai’n mynd ati i dwyllo’r byd. Mae eu geiriau hwy yn wahanol i’r chwedlau am Sion Corn. Mae tinc y gwirionedd yn yr hanes hwn.