Tymor yr Adfent xviii

Published by Dafydd Job on

Un o wirioneddau mawr ein bywydau ni ydi fod pethau yn digwydd sydd y tu hwnt i’n gallu ni i’w rheoli. O’r tywydd, i ymateb ffrindiau, i iechyd, tydi pethau ddim yn digwydd i reol. Er hynny rydym ni am geisio gosod trefn arnyn nhw. Dyna ran o ymdrech bywyd – gallu rheoli neu lywodraethu fel ein bod yn gwybod beth sy’n digwydd a phryd mae o’n digwydd.

coron 2Ond mae Iesu wedi ei eni i fod yn Frenin absoliwt. Dywedir amdano: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)

Mae hi mor hawdd troi’r ymgnawdoliad yn rhywbeth sydd wedi digwydd er ein mwyn ni. Dim ond gwirionedd rhannol ydi hynny. Mae yna wirionedd dyfnach, mwy rhyfeddol. Mae’r iachawdwriaeth wedi ei threfnu er mwyn dangos gogoniant Crist. Rydym ni wedi ein creu er ei fwyn o, a rydym ni yn cael ein hachub er ei fwyn o. Hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;  16 oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. (Colosiaid 1:15-16)

Tyden ni ddim i feddwl am yr efengyl yn nhermau ni’n defnyddio Iesu i’n cael ni allan o sefyllfa ofnadwy. Mae Crist yn gwasanaethu (Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.”  (Marc 10:45 BCN) – ond mae’r gwasanaeth hwnnw ar ei delerau o. Tyden ni ddim yn dod yn Gristnogion ar ein telerau ni. Mae dod at Grist yn golygu rhoi heibio unrhyw hawl ar ein rhan ni. Does gennym ni ddim byd i gynnig tuag at ein hiachawdwriaeth ond ein hangen. Rhaid bwrw ein hunain ar ei drugaredd.

Ac wedi iddo ein derbyn, yna bellach mae yn frenin. Rydym yn dod i mewn i’w deyrnas o – Felly ei air o sy’n rheoli yr hyn a wnawn. Bob tro byddwn yn anwybyddu ei lais – mae hynny’n deyrnfradwriaeth yn erbyn ein Brenin. Oherwydd ar ei ysgwydd Ef y bydd yr awdurdod.

Fe welodd Herod hyn ar ryw ystyr – fedrwn ni ddim cael dau frenin oedd rhesymeg Herod. Dyna pam roedd am ei ddifa.

Felly yn fy mywyd i. Naill ai fi sy’n frenin, neu fo. Naill ai hunan-lywodraeth yw hi neu unbennaeth. Ond mae’r unben yn dda – yn well nag y gallwn ei ddychmygu: Ni bydd diwedd ar gynnydd ei lywodraeth, nac ar ei heddwch i orsedd Dafydd a’i frenhiniaeth, i’w sefydlu’n gadarn â barn a chyfiawnder, o hyn a hyd byth. (Eseia 9:7)