Tymor yr Adfent xix

Published by Dafydd Job on

Ronnie-Biggs-2125082Ddoe daeth y newydd for Ronnie Biggs wedi marw – cymeriad a ddaeth yn amlwg yn sgîl y rhan fach a gymerodd yn y drosedd a ddaeth i gael ei hadnabod fel the great train robbery. Mae’n ddiddorol gweld yr ymateb ar y cyfryngau. Mae yna ymdrech amlwg fel petai i geisio dad-wneud yr argraff roddodd ef ei hun ei fod yn dipyn o arwr. Ei farn ef ei hun oedd ei fod yn falch iddo gymryd rhan yn y lladrad oherwydd ei fod wedi gadael ei ôl ar hanes y byd. Mi fyddai pobl yn cofio ei enw.

Mae yna lawer sydd am adael eu hôl ar hanes – rhai mewn ffordd gadarnháol fel Nelson Mandela; eraill mewn ffordd negyddol fel Adolf Hitler. Mae’n debyg na chaiff Ronnie Biggs ei gofio gan fawr neb ar waethaf ei uchelgais o.

Mae’r Nadolig yn adeg i gofio yr Un sydd yn gosod ei farc ar hanes y byd mewn ffordd na all unrhyw un arall ei wneud. Un o fy hoff benodau i yn y Beibl yw’r bumed bennod yn Llyfr  Datguddiad. Yn y bedwaredd bennod rydym wedi gweld Duw yn ei sancteiddrwydd a’i ogoniant. Dyma’r Duw na ellir dod yn agos ato. Yna mae’r bumed bennod yn agor trwy ddisgrifio sgrol, wedi ei hysgrifennu oddi mewn ac oddi allan. Dyma gynllun Duw i achub y byd ac agor y ffordd i’r ddynolryw gael dod ato. Ond mae’r sgrol wedi ei selio. Does dim modd i’r cynllun gael ei weithredu heb i rywun ei hagor. Er chwilio drwy’r ddaear a’r nefoedd does dim modd dod o hyd i neb sy’n deilwng i’w hagor.

Mae Ioan yn wylo’n hidl o weld hyn. Dyma achos sylfaenol pob wylo – does neb yn ddigon da i’n dwyn yn ôl at Dduw ac i osod pob dim yn iawn. Ond yna mae’n cael gorchymyn i aros. Does dim rhaid wylo dim mwy. Pam? Mae yna Un wedi dod i’r golwg – y Llew o lwyth Jwda. Hwn fydd yn allwedd i holl hanes y byd. Mae  Ioan yn edrych a gweld oen fel petai wedi ei ladd, ond mae’n fyw. Dyma’r Oen sy’n dwyn ymaith bechodau’r byd.

Mae’r henuriaid oddi amgylch gorsedd Duw yn dechrau canu a chyhoeddi teilyngdod yr Oen. Wedyn mae myrdd o angylion y nefoedd yn ymuno yn y gân, ac yn olaf mae’r holl greadigaeth yn seinio mewn cân fyddarol mai teilwng yw yr Oen!

Pwy all beidio a meddwl am oratorio Handel sy’n tynnu at ei uchafbwynt trwy gymryd y geiriau o’r bennod hon: “Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn gallu, cyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, gogoniant a mawl.” (Datguddiad 5:12 BCN)

Bellach fe aeth Ronnie Biggs i ateb gerbron ei Greawdwr, a diolch nad oes gofyn i neb ohonom ni osod ein llinyn mesur ar ei fywyd. Ond mi greda i mai rhyw droednodyn bach fydd iddo pan gofnodir hanes yr ugeinfed ganrif, os hynny.

Ond am y baban a aned ym Methlehem – er na fu fyw ond rhyw dri-deg- a-thair o flynyddoedd, ac na chafodd y celebrity status mae cymaint heddiw yn ei chwennych – wel, a dwyn geiriau Robert ap Gwilym Ddu: Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano!

Wrth gwrs, os yw ei ddylanwad Ef ar y byd yn allweddol, beth am ei ddylawnad ar fy mywyd i…. dy fywyd di?