Tymor yr Adfent xx
“Dwi’n methu aros!” – Mae’n ymadrodd sydd wedi ei ddweud gan lawer o blant dros y blynyddoedd wrth feddwl am y diwrnod mawr – y diwrnod pryd y bydd Siôn Corn wedi cyrraedd a’r anrhegion yn cael eu hagor. Mae llawer mwy ohonom, er efallai na fyddem yn defnyddio’r ymadrodd, eto wedi teimlo’r un fath – efallai nid am ddydd Nadolig ond rhyw ddigwyddiad arall – y gwyliau yn dechrau, cyfarfod â rhywun, diwrnod priodas… gallwch chi feddwl am yr hyn rydych chi wedi bod yn dyheu amdano. Ond weithiau rydym yn gorfod aros – aros nes ein bod hyd yn oed yn amau os cawn ni gyrraedd y diwrnod neu’r digwyddiad.
Rydym yn ein tŷ ni wedi bod yn edrych ymlaen at heddiw ers wythnosau. Mae in merch Heledd yn gweithio yn Slovakia, ac er ein bod yn cael siarad â hi, a’i gweld trwy gyfrwng Skype bob wythnos, eto tydi hynny ddim yr un peth â’i chael adref. Heddiw yw’r diwrnod roedd wedi cynllunio dod adref, a ninnau wedi cynllunio ein dydd fel ein bod yn gallu mynd i’r maes awyr i’w nôl.
Ond dydd Mercher daeth neges ganddi – roedd wedi disgyn a thorri ei ffêr. Cafodd yr holl gynllun ei fwrw i ansicrwydd. Ddoe daeth y newydd na chaiff deithio heddiw – â ninnau methu aros am ei gweld, mae’n rhaid aros. Does dim modd gwneud yn wahanol – ddim mwy nag y gall y plant beri bod Rhagfyr 25ain yn dod yn gynt. Trwy drugaredd dim ond diwrnod fydd yn rhaid i ni ei ddisgwyl mae’n debyg. Y diweddaraf yw y caiff ddod adref fory. Ond rhaid aros. Nid ein trefniadau ni sy’n cyfrif yn y pen draw.
Rydym yn darllen yn y Beibl am bobl oedd wedi clywed fod Gwaredwr yn mynd i ddod i Israel. Rhoddwyd addewid yn Eden am had y wraig oedd yn mynd i ysigo pen y sarff (Genesis 3). Rhoddwyd addewidion trwy Eseia y deuai un a fyddai’n “Gynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. (Eseia 9:6). Rhoddwyd cymaint o addewidion yn wir. Ond doedd y Meseia heb ddod. Roedd rhai yn amau a ddeuai byth – mai breuddwyd ffŵl oedd credu yn yr addewidion, a hynny mewn dyddiau pryd yr oedd cenedl Israel yn bobl bitw mewn cornel fach o ymherodraeth Rufain ( a chyn hynny, ymherodraeth Groeg a chyn hynny Teyrnas y Mediaid a’r Persiaid…) Roed amgylchiadau wedi newid. Doedd dim iws credu’r hen eiriau.
Ond roedd yna rai oedd yn mynnu dal gafael yn yr addewidion. Dyna chi’r criw bychan yn Jerwsalem – Simeon oedd yn disgwyl am ddiddanwch Israel (Luc 2:25) ac Anna’r broffwydes oedd yn moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem. (Luc 2:38) Pryd fyddai’r diwrnod yn cyrraedd pan fyddai Meseia Duw wedi dod. Roedden nhw wedi disgwyl mor hir – cannoedd o flynyddoedd ers proffwydoliaeth Eseia, miloedd ers proffwydoliaeth Genesis.
Ond tydi addewidion Duw ddim fel ein trefniadau ni. Mae’n trefnu ni yn methu, ac yn gorfod cael eu haddasu. Mae’r Beibl yn dweud wrthym Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, (Galatiaid 4:4)
Mae yna fesur o ansicrwydd o hyd a fydd Heledd yn gallu dod adref fory. Ond does dim ansicrwydd am gynlluniau Duw. Daw’r cwestiwn i ni felly, beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer i heddiw? Ai heddiw yw’r amser priodol i minnau ymateb i’w gariad Ef? Darllenwch y garol hon rydym yn ei chanu weithiau yng Nghapel y Ffynnon. (Cenir hi ar y dôn Poland – Caneuon Ffydd 373)
Yn y dydd cyn dyfod dyddiau Taniwyd seren yn y dwyrain
Trefnwyd dydd dy ddyfod Di; Oedd yn arwain at y crud;
Trefnwyd bore gwyn y geni Ac i Fethlem daeth bugeiliaid:
Cyn goleuo’n daear ni; Ar y Baban oedd eu bryd;
Cyn bod pechod, Daeth y doethion
Trefnwyd cymod Ar eu hunion
Trwy gyfamod Â’u anrhegion,
Perffaith Drindod; Gwerthfawr roddion,
Trefnwyd aberth trosom ni; I addoli Ceidwad byd;
Trefnwyd aberth trosom ni. I addoli Ceidwad byd;
Trwy y proffwyd gynt i’r tadau Trefnwyd croes i dalu’n dyled
Rhoed addewid am dy ddod; Ar y bryn tu maes i’r dre;’
Un i dalu dyled Adda, Trefnwyd dydd i ninnau glywed
Un i ennill dwyfol glod. Am ei aberth yn ein lle;
Y Cynghorwr Am i’r Iesu
Mor rhyfeddol, Trosom waedu
cadarn, dwyfol, I’n gwaredu,
a Thad bythol; Rhaid in’ gredu;
T’wysog heddwch fyth i fod; Brysiwn heddiw ato Fe;
T’wysog heddwch fyth i fod. Brysiwn heddiw ato Fe.
© Dafydd M Job