Tymor yr Adfent xxi
Ddoe, a minnau wedi mynd allan i ymweld â rhywun, roeddwn yn gwrando ar y radio yn y car. Classic FM oedd yr orsaf, a minnau’n mwynhau’r gerddoriaeth. Wrth i mi nesáu at y tŷ, dyma’r darlledwr yn cyhoeddi – mewn dau funud roedden nhw’n mynd i chwarae recordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo.
Mae’r gair unmissable yn cael ei ddefnyddio’n aml y dyddiau hyn – yn enwdig yng nghyd-destun y Nadolig. Bydd eich dathlu yn anghyflawn heb……. Gwaetha’r modd rydw i’n un da am eu methu nhw i gyd bron! Ond dyna ydi ein hanes yn aml. Ryden ni’n colli un peth oherwydd ein bod yn cyfrif bod rhywbeth arall yn fwy gwerthfawr. A dyna un o ryfeddodau hanes y Nadolig. Roedd cymaint wedi methu yr unmissable.
Beth roddwn i am gael bod yn y fan a’r lle yn gweld y baban bychan wedi ei eni, a gwybod fod Duw wedi ymweld â ni! Fe frysiodd Seren Bethlehem yno er mwyn disgleirio ar y bychan. Gallwn ddychmygu’r angylion i gyd yn gobeithio y bydden nhw’n cael eu dewis i fod yn y côr uwch bryniau Bethlehem. Dacw’r bugeiliaid yn gadael eu praidd, a’r sêr ddewiniaid yn gadael eu llyfrau.
Wrth gwrs, fe wyddom am Herod na ddymunai fynd i addoli – ond beth am y mwyafrif? Go brin fod pobl Bethlehem yn gwrthwynebu genedigaeth Iesu – ond roedd y mwyafrif ohonyn nhw yn brysur yn gwneud y pethau roedden nhw’n ei gyfrif yn bwysig – ac yn y broses yn methu gweld yr un digwyddiad unmissable mwyaf mawr y gallen nhw ei ddychmygu.
Gan na fedrwn ni yn llythrennol fod yno gyda Mair a Joseff mae’n hawdd i ni feddwl nad oes gan brysurdeb Bethlehem unrhyw beth i’w ddweud wrthym ninnau. Ond un o’r cwynion am ein hoes ni yw ei bod yn oes brysur. Rydym wedi llenwi ein bywydau gyda phob math o bethau – cymaint yn wir fel na allwn ddychmygu byw hebddyn nhw. Ond beth am holi’r cwestiwn – beth sydd yn hanfodol bwysig i ni wneud yn siwr nad ydym yn ei fethu y Nadolig hwn?
I’w roi o mewn ffordd wahanol – oes gan Dduw rhywbeth i’w ddweud wrthym, rhywbeth i’w ddangos i ni neu rywbeth i’w wneud ynom a thrwom, ond rydym mewn perygl o’i fethu oherwydd ein bod wedi blaenoriaethu pethau eraill? Fedrwn ni ddim peidio â meddwl am Martha yn llawn ei phrysurdeb gyda’i pharatoadau tra roedd Mair yn eistedd wrth draed y Gwaredwr. (Luc 10:38 – 42)
Rydym yn hoffi canu am y baban Iesu ynghwsg yn y gwair. Os mai ganol nos yn wir y cafodd ei eni, yna roedd llawer o bobl Bethlehem ynghwsg yn eu gwláu adeg y geni. Byddai’n dristwch mawr i ni fod ynghwsg yn ysbrydol yn ein diddanwch nadoligaidd, a thrwy hynny ein bod yn colli’r unmissable yng nghanol y dathlu.
(Gyda llaw, i’r rhai ohonoch oedd yn darllen ddoe, fe gafodd Heledd ganiatád i ddod adref heddiw, felly gobeithio caf ei chyfarfod yn y maes awyr heno.)