Tymor yr Adfent xiii
Un o’r teitlau roddir i Iesu yn Eseia 9:6 yw “Cynghorwr rhyfeddol”. Mae hyn yn ymddangos yn nodwedd hynod o berthnasol i’n hoes ni. Rydym yn byw ar adeg lle mae cymaint o gwestiynau yn ein wynebu – mae technoleg newydd wedi rhoi’r gallu i ni wneud pethau na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu fyddai’n bosib. Eto tydi ein gallu i ddefnyddio’r dechnoleg yn ddoeth ddim wedi tyfu gyda’r datblygiadau newydd hyn. Sut felly y gall cyngor rhywun oedd yn fyw dwy fil o flynyddoedd yn ôl fod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?
Mae ei gyngor yn wir. Pan oedd pobl yn gwrando ar y Gwaredwr, roedd yn rhaid iddyn nhw gyfaddef fod yna rhyw gywirdeb am y cyfan roedd yn ei ddweud. Roedd ei elynion yn gorfod cyfaddef “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir……… ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.” (Mathew 22:16) Nid geiriau o seboni oedd ganddo, yn dweud wrth bobl yr hyn roedden nhw eisiau gwybod, ond gwir – hyd yn oed os oedd hwnnw’n anghyfforddus i’w wrandawyr.
Mae ei gyngor awdurdodol: Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; (Ioan 3:11). Wrth i bobl wrando arno, roedd yna rhywbeth yn ei eiriau oedd yn argyhoeddi. Pan orffennodd Iesu lefaru’r geiriau hyn, synnodd y tyrfaoedd at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu; oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, (Mathew 7:28-29) Tystiolaeth miloedd ar draws y canrifoedd yw fod ei gyngor yn parhau gyda’r un awdurdod.
Nid cyngor arwynebol mohono. Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglŷn â’r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion. (Ioan 2:25). Wrth feddwl am yr holl lyfrau ar silffoedd ein siopau yn cynnig strategaethau am wynebu bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain mae gan Iesu gyngor sydd yn treiddio’n ddyfnach na’r un ohonyn nhw – Oni welwch na all dim sy’n mynd i mewn i rywun o’r tu allan ei halogi, oherwydd nid yw’n mynd i’w galon ond i’w gylla, ac yna y mae’n mynd allan i’r geudy?” ……. “Yr hyn sy’n dod allan o rywun, dyna sy’n ei halogi. Oherwydd o’r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o’r tu mewn y mae’r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun.” (Marc 7:18-23) Nid y dechnoleg newydd, na’r amgylchiadau allanol yw’r hyn sy’n gwneud bywyd modern yn anodd. Cyflwr ein calonnau yw’r hyn sy’n anodd ei reoli. Gall technoleg fodern fod yn was da, os fedrwn ni ddelio gyda’n calonnau i wybod sut i’w ddefnyddio.
Mae ei gyngor yn rasol. Pan welai y cleifion, roedd ei dosturi yn amlwg. Pan welai’r pechdauriaid yn dod ato, nid edrych i lawr arnyn nhw wnaeth o, fel y Phariseaid. (Darllenwch Luc 7:36 – 50). “Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef.” (Ioan 3:17)
Mae ei gyngor yn rhoi bywyd. “Y geiriau yr ydwyf fi yn eu llefaru wrthych, ysbryd ydynt, a bywyd ydynt”. (Ioan 6:63) Pan drodd y tyrfaoedd eu cefn ar Iesu, gofynnodd i’w ddisgyblion os oeddent hwy am ei adael hefyd. Atebodd Simon Pedr drostyn nhw i gyd: “Arglwydd, at bwy yr awn ni? Y mae geiriau bywyd tragwyddol gennyt ti,” (Ioan 6:68)
Mae ei gyngor yn hawlio ymateb: “Pob un felly sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof ac yn eu gwneud, fe’i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig. Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig. A phob un sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’r eiddof a heb eu gwneud, fe’i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod. A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp.” (Matthew 7:24-27)