Tymor yr Adfent xiv
Tua Bethlem dref
Awn yn fintai gref,
Ac addolwn Ef.
Gyda’r llwythau
Unwn ninnau
Ar y llwybrau
At y crud.
Tua’r preseb awn
Gyda chalon lawn
A phenlinio wnawn.
Dyma ni wedi cyrraedd Noswyl Nadolig. Sut ddiwrnod gewch chi tybed? Bydd rhai wedi bod yn hynod o drefnus, a bydd yn ddiwrnod tawel cyn y dathlu mawr. Bydd eraill yn ei chael yn ddiwrnod gwyllt a phrysur. Mae nhw’n deud bydd tua deg y cant ohonom allan yn chwilio am yr anrheg Nadolig munud olaf. Bydd eraill efallai yn ceisio teithio i fod gyda’u teuluoedd, a tydi hynny ddim yn hawdd eleni gyda’r trafferthion tywydd. Bydd eraill wedyn yn lapio eu presantau, ac yna yn paratoi’r llysiau cyn bore fory.
Mae trioleg mawr Tolkien – The Lord of the Rings – yn cyhwyn gyda pharatoi am barti mawr. Mae Bilbo Baggins yn cael parti na fu ei debyg wrth ddathlu ei fod o yn cant ag un-ar-ddeg oed, a’i etifedd, Frodo, yn dri-deg-a-thair. Daw’n amlwg erbyn diwedd mai esgus yw’r parti. Roedd Bilbo yn mynd i ffwrdd, ac roedd yn gadael ei fodrwy hud ar ôl i Frodo. Rhywsut roedd y parti, lle roedd pawb yn y sir yn cael anrhegion ganddo, yn ymgais i’w gwneud hi’n haws i roi ymaith ei fodrwy.
Ydych chi’n mwynhau rhoi anrhegion? Fe gyflwynodd y doethion roddion i’r Gwaredwr – aur thus a myrr. Beth roddwn ni iddo? Mae yna un anrheg sy’n anodd i ni gyd ei roi i ffwrdd – ein calon. Efallai ein bod wedi rhoi ein calon i rhyw un neu ryw beth arall. Neu efallai ein bod yn teimlo nad yw’n anrheg digon da i’w roi, am ein bod ni mor wael. Ond mae’r Nadolig yn un adeg pan fedrwn ni gofio fod Iesu wedi rhoi ei hun i ni, ac fe ddylai hynny ei gwneud hi’n haws i ni roi ein calonnau iddo Ef. Llynedd fe rois yr englynion canlynol ar y we. Mae nhw’n mynegi’r dymuniad i Iesu ein derbyn.
Yr Anrheg a roddais
Ar agor dy ddrud anrhegion – o aur
Thus a myrr, Iôr tirion
Yno gwêl: mae un galon
Gyda hwy; fe gei Di hon.
Un galon na all gelu – ei düwch
A deuaf i blygu
Yn sain yr angylion sy’
Yn hedeg uwch dy feudy.
Un galon yn y golau – yn newid
Dan awen dy eiriau;
Un galon oer i’w glanhau;
Un daith i’th geisio Dithau.
O dy gymell, a elli – ei harbed
O’i derbyn, ac erddi
Ar y daith a fentri Di
Ar astell farw drosti?
O! Tyred, Faban tirion – Ni allaf
Roi gwell nag anrhegion
Y tri doeth; O tyred, Iôn,
A hawlia lety ‘nghalon.
© Dafydd M Job