Nadolig Llawen
Mae’r dydd mawr wedi cyrraedd. Bydd y plant wedi bod yn agor eu hanrhegion, a’r rhan fwyaf ohonom yn cael diwrnod i ddathlu. Mae llawer o fwynhad i’w brofi yn y dathliadau. Ond y tu cefn i’r cyfan fe ddylem ryfeddu yn gyson am i Dduw ein caru, a danfon ei Fab er ein mwyn. Fel y gwnes y llynedd, dyma gyflwyno cerdd a ysgrifenais ychydig flynyddoedd yn ol. Mae’r gerdd hon yn crynhoi’r ŵyl i mi. Mae’r neges yn syml, ond gobeithio byddwch yn ymdeimlo â’r rhyfeddod sy’n llenwi fy nghalon i wrth feddwl am wyrth yr ymgnawdoliad. Diolch am ddarllen y myfyrdodau. Mi fyddan nhw’n parhau ar ôl heddiw, ond yn y cyfamser, boed i chi gael Nadolig bendithiol a gorfoleddus.
Yr Ymgnawdoliad
Mae heno uwch y mynydd
Yn y nen un seren sydd
Â’i golau yn datgelu
Dyfodiad ein Ceidwad cu
Dyfod Duw i adfyd dyn
A’i eni yn fachgennyn!
Arglwydd, ai rhwydd fu rhoddi
Aer y Nef i’n daear ni?
I guddio’r Gair Tragwyddol
Yn y gwair mewn egwan gôl?
Am i Dduw i Fethlem ddod
O’i fodd mae mawr ryfeddod!
O! ddwyfol ymgnawdoliad!
Y mae cur ei ymwacád,
A’i ‘fory ar Galfaria’n
Dwyn yn glau i’n genau gân,
A’i ddod yn cuddio’n tlodi,
Rosyn Nef, drwy’i ras i ni!
Yr anfeidrol feidrolyn
Yn Fab Duw, yn Fab y dyn.
Anwyla ein heiddiledd,
Duw sy’n fodlon gwisgo’n gwedd;
Gedy nef – Duw gyda ni
Yn nhir anwar trueni.
Y Dwyfol sy’n Nhre Dafydd
Er ein mwyn, er dwyn y dydd
I noswaith hir ein heisiau –
Dywyll nos – rhaid llawenhau
Mewn carol, a’i addoli,
Lywydd nef, ein Harglwydd ni!
Rhown heddiw Haleliwia
Eni dydd y newydd da,
I eilio cân angylion
Uwch y dref, â’n llef yn llon;
A heno uwch y mynydd
Yn y nen un seren sydd.
© Dafydd M Job