Sbarion y Twrci
Wel, fe aeth y diwrnod mawr heibio unwaith eto. Gobeithio i chi brofi bendith a mwynhád yn ystod y dydd. Mae’n siwr y bydd y mwyafrif ohonoch yn parháu i fwynhau cyfnod o ymlacio heddiw, os nad ydych wedi bod yn brysio i’r “Sales” bondigrybwyll. Er, i rai pobl dyna yw eu dileit – mae nhw’n cael ymlacio wrth fynd i edrych y bargeinion. I eraill, mae digon o’r twrci ar ôl, ac amser i ymlacio ac edrych yn fwy hamddenol ar yr anrhegion.
Un o beryglon diwrnod fel ddoe yw ei bod hi’n hawdd iawn i’r dathlu fynd yn ddyn ganolog. Peidiwch â’m camddeall – tydw i ddim yn erbyn ymlacio a chael mesur o orffwys dros yr ŵyl. Fe wnes i fwynhau’r cinio gawsom ddoe cystal â neb. Roedd eistedd o amgylch y bwrdd gyda phawb yn gwisgo coron ddaeth allan o’r craceri dolig yn braf. Ond mae’n bwysig cofio mai coronau papur oedden nhw. Dim ond Un sydd yn deilwng o goron barhaol – a’r baban a aned ym Methlehem yw hwnnw. Bydd pob coron arall ryw ddydd yn cael ei bwrw wrth draed y Brenin Mawr.
Dyna pam fod hyd yn oed Herod yn ofni dod at y crud gyda’r sêr ddewiniaid. Wrth ddod wyneb yn wyneb â’r Gair tragwyddol wedi dod yn gnawd, roedd yn rhaid iddo gydnabod fod blynyddoedd ei deyrnasiad yn dod i ben. Dyna fydd hanes pob un ohonom. Ac er y gallwn fwynhau’r bendithion tymhorol sydd gennym – wedi’r cwbl, Duw sydd wedi eu rhoi ni, ac mae pob rhodd ddaionus i’w dderbyn gyda diolchgarwch – rhaid peidio rhoi gormod o bwys arnyn nhw.
Mae fel rhywun sy’n byw mewn carafan, gan wybod y bydd cyn hir yn symud i dŷ cadarn. Tydi o ddim yn mynd i fuddsoddi gormod yn ei gartref dros dro. Mae’n cadw ei drysor ar gyfer yr un fydd yn barhaol.
Dyna pam y dywedodd Iesu: “Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron yn torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (Mathew 6:19-21)
Ddoe yn ein gwasanaeth Nadolig daeth un o’r gynulleidfa â doli rwsiaidd i’w dangos i’r plant. Un o’r doliau hynny sy’n agor i ddangos doli arall y tu mewn. Roedd y mwyaf wedi ei addurno fel y tri gŵr doeth; y nesaf fel un o’r bugeiliaid, y nesaf fel Mair, y nesaf fel yr asyn fu’n cario Mair i Fethlehem, ond yr un yn y canol oedd y baban Iesu.
Fe fyddaf yn siwr o gael pleser heddiw a thros y dyddiau nesaf yn darllen rhai o’r llyfrau gefais, neu gosod y tŷ adar i fyny, a mynd am dro gyda’r ci a gweld y teulu. Bydd dim euogrwydd wrth wneud y pethau hynny. Ond fe fyddaf hefyd yn cofio fod y papur lliwgar oedd o amgylch y presantau bellach yn disgwyl yn y bin ail-gylchu. Mi fydda i yn cofio am y trysor sy gen i na all neb na dim ei gymryd oddi arnaf.