Mae sŵn y gwynt yn chwythu

Published by Dafydd Job on

images (3)Roedd y gwynt yn hyrddio yma ym Mangor neithiwr. Dywedir fod y gwynt yn Aberdaron yn plycio ar ymhell dros gan milltir yr awr. Mae’n siwr bydd yna goed wedi disgyn a niwed ar draws y wlad. Mae’r gwynt yn gallu bod mor amrywiol – o awel dyner fin nos yn yr haf i gorwyntoedd dinistriol. Ac wrth gwrs, tyden ni ddim yn gallu ei reoli. Mae’n mynd i pa bynnag gyfeiriad mae’n ei ddymuno. Efallai y gallwn ni adeiladu cysgod rhagddo. Ond yna pan fyddwn ni yng ngwres yr haul ganol haf, fedrwn ni ddim ei orchymyn i ddod.

Does dim rhyfedd felly i’r Arglwydd Iesu ein cyfeirio at y gwynt wrth geisio egluro gwaith yr Ysbryd Glân: Y mae’r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae’n dod nac i ble y mae’n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o’r Ysbryd.” (Ioan 3:8) Fedrwn ni ddim rheoli’r Ysbryd Glân, ddim mwy na’r gwynt. Mae ei waith mor amrywiol, fel y gallwn eistedd yn ôl a rhyfeddu wrth feddwl amdano.

Yng nghyd destun y Nadolig mae rhywbeth hyfryd iawn am waith yr Ysbryd. Meddyliwn amdano yn ymweld â Mair, fel bod y Gair yn dod yn gnawd yn ei chroth (Luc 1:35). Yna daeth fel awel gref i lenwi calon Elisabeth â rhyfeddod a llawenydd pan ymwelodd Mair â hi (Luc 1:41). Gwelwn yr Ysbryd yn sibrwd yng nghlust Simeon, iddo fynd i’r deml i ddisgwyl y Meseia: Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Glân na welai farwolaeth cyn gweld Meseia’r Arglwydd. Daeth i’r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni â’r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglŷn ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith, cymerodd Simeon ef i’w freichiau a bendithiodd Dduw (Luc 2:25-28).

Ond daeth yn fwy o gorwynt i fywyd Nicodemus. Roedd yntau yn ddiogel yn ei statws barchus o fod yn un o athrawon y gyfraith yn Israel. Ond yna daeth awel i’w aflonyddu wrth iddo glywed a gweld Iesu yn pregethu ac iacháu. Ac yna, un min nos fe ddaeth plwc nerthol o’r gwynt i ddymchwel ei fyd, pan ddywedodd y Gwaredwr wrtho – “Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a’r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn sydd wedi ei eni o’r cnawd, cnawd yw, a’r hyn sydd wedi ei eni o’r Ysbryd, ysbryd yw. (Ioan 3:5-6)

Peth mentrus yw rhoi’n hunain yn nannedd y gwynt, a pheth mentrus yw rhoi’n hunain yn nwylo yr Ysbryd Glân. Ond mae’r gwynt yn gallu bod yn llesol i ni. Meddyliwch am yr ynni sy’n cael ei harneisio gan y melinoedd gwynt i gynhyrchu’r trydan sy mor gynorthwyol i’n images (2)cymdeithas. Mae’r Ysbryd Glân yn dda, ac o roi ein hunain yn ei ofal, fe all chwyldroi ein bywyd – ond nid mewn ffordd ddinistriol. I’r gwrthwyneb yn wir. Mae golygfeydd wedi corwynt yn dangos y difrod sy’n gallu digwydd. Lle’r oedd trefn a chartrefi clyd, bellach mae anrhefn llwyr. Ond gyda’r Ysbryd, dechreuwn gyda’r hyn sydd wir yn anhrefn, ac wedi i’r corwynt ddod heibio, mae trefn a diogelwch.

Mae yna ochr arall hefyd i roi ein hunain yn nwylo’r Ysbryd. Ychydig flynyddoedd yn ôl cefais y profiad o neidio allan o awyren gyda pharasiwt. Roedd llawer yn meddwl fy mod yn ffôl i roi fy hunan ar drugaredd y gwynt. Ond wrth ddisgyn drwy’r awyr, roedd y gwynt yn fy nghludo’n dawel. O danom roedd yna gwmwl, ac yn y cwmwl gwelais enfys gron, a’m cysgod yng nghanol yr enfys. Cefais hedfan drwy ganol yr enfys – a dyna chi brofiad! Mae yna antur wrth osod ein hunain yng ngofal yr Ysbryd. Os daw fel corwynt i droi ein byd ar ei ben i lawr ar adegau, daw hefyd fel awel o dangnefedd, fel at Simeon, i gario Crist atom pan fyddwn ynghanol y storm.