Deiet wedi’r Dolig

Published by Dafydd Job on

weightloss2Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau?

Does gen i ddim cyngor arbennig i’w roi am golli pwysau, ond mae gen i gyngor. Os ydi’r hyn sy’n bwydo’ch corff chi yn bwysig, mae’r hyn sy’n bwydo’ch enaid yn llawer mwy pwysig. Dyna pam fod yr adeg hwn, pryd efallai y cawn gyfle i oedi a gorffwys, yn un da i feddwl am sut yden ni’n gofalu am ein iechyd ysbrydol. Wedi’r cwbl, ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw, ond ar bob gair sy’n dod allan o enau Duw.’ ” (Mathew 4:4)

Mae ein hiechyd ysbrydol wrth gwrs yn fwy na dilyn rhyw batrwm neu gyfarwyddiadau caeth. Perthynas yw ein bywyd ysbrydol gyda Duw, trwy yr Arglwydd Iesu a chyda cymorth yr Ysbryd Glân. Yr un fath ag y mae gwarchod fy mherthynas gyda fy ngwraig yn fwy na dyletswydd, felly gyda Duw.

Mae yna bethau sy’n gymorth i’n heneidiau. Cymrwch chi’r Beibl er enghraifft. Mae yma fwyd i’n henaid, oherwydd mai dyma lle mae Duw yn ei ddatguddio’u Hun i ni. Mae ei ddarllen yn llesol – yn fwyd i’r enaid. Ac fe gawn y budd mwyaf o sicrhau ein bod yn darllen yn rheolaidd, yn weddigar, yn ddisgwylgar. Os yw ein perthynas â Duw yn flaenoriaeth, yna fe fyddwn yn gwneud yn siwr fod gennym amser i’w dreulio yn rheolaidd i wneud hyn.

Mae cynorthwyon ar gael i’n helpu – mae cynlluniau darllen i’ch galluogi i ddarllen y Beibl i gyd mewn un flwyddyn, neu ddwy neu dair. Rwyf fi wedi cael budd o ddefnyddio cynllun McCheyne, sy’n galluogi rhywjn i ddarllen yr Hen Destament i gyd unwaith, a’r Testament Newydd a’r Salmau ddwy waith mewn blwyddyn. Ond nid pawb sydd am ddilyn y cynllun hwn. Y peth pwysig yw eich bod yn diogelu amser i oedi, ac yn weddigar i ddarllen yr hyn mae Duw wedi ei roi i ni.

Gall nodiadau dyddiol ein helpu hefyd. Mae llawer o wahanol fathau ar gael. Gallwch ddewis un sy’n gymorth i chi. Ond mae un gair o rybudd ynglŷn â’r nodiadau hyn. Mae perygl i ni ddibynnu ar brofiadau ail-law yn hytrach na gweld pethau drosom ein hunain. Weithiau yr hyn fydd orau fydd chi, y Beibl a dim arall.

Beth am gymdeithas y saint. Gall mynd i’r capel fod yn ddim mwy na dyletswydd. Ond mae yna ffordd arall o feddwl am bethau. Weithiau byddwch yn mynd allan am bryd o fwyd. Er eich bod chi yn gallu coginio, mae’n dda mynd i rhywle lle mae rhywun sy’n arbenigwr yn gallu paratoi’r pryd arbennig hwnnw ar eich cyfer. Felly er ein bod i ddarllen y Gair adref, mae’n werth troi i mewn i fan lle mae rhyw un sydd wedi ei alw i’r gwaith, ac wedi treulio amser yn myfyrio a meddwl, yn dwyn Gair Duw atom mewn pregeth. Cawn feddwl mwy am hyn eto.

Categories: Nadolig