Mynd i’r Gym
Fe soniais i ddoe am ddeiet iach. Wrth gwrs nid mater o ddeiet yn unig yw byw yn iach. Ochr yn ochr â’r addunedau flwyddyn newydd am golli pwysau trwy fwyta’n well, bydd llawer yn ymuno â gym lleol. Bydd y mwyafrif ond yn mynychu’r gym am ychydig wythnosau, ond mae yna gydnabod bod rhaid cael ymarfer corff er mwyn cael gwerth a llesád o newid deiet. Er mwyn cael gwared â brasder diangen, a chryfhau’r cyhyrau, rhaid ymarfer y cyhyrau a llosgi’r brasder ymaith trwy ymarfer corfforol.
Mae hon wrth gwrs yn egwyddor sy’n hawdd ei chymhwyso i’n hiechyd ysbrydol. Ochr yn ochr â deiet dda o ddarllen y Beibl, mae angen i’r darllen hwnnw effeithio ar ein bywyd. Mae hynny’n effeithio felly ar ein ffordd o ddarllen y Beibl. Mae’n golygu ein bod yn edrych am rhywbeth arbennig wrth ddarllen y Gair. Rydym yn edrych am yr hyn fyddwn yn gallu ei gymhwyso i’n bywyd.
Er enghraifft, wrth ddarllen fe fyddwn yn holi cwestiynau fel hyn: Oes yna rhywbeth yma sy’n help i fi garu Duw yn fwy?
Oes yna rhywbeth yma sy’n help i fi ddod yn fwy tebyg i Iesu Grist?
Oes yna egwyddorion yma alla i eu defnyddio yn fy mywyd heddiw?
Oes yna rhywbeth yma sy’n dangos fod yna rhywbeth mae’n rhaid i mi newid yn fy mywyd?
Oes yna rhywbeth yma all fod yn help i mi ei rannu gyda rhywun?
Wedyn, ar ôl darllen, mae angen i ni fynd ati i weithredu yr hyn ryden ni wedi ei ddysgu:
Yn fy mywyd personol – beth sydd angen i mi ei wneud heddiw fydd yn wahanol? Beth sydd angen i mi gadw golwg arno yn arbennig yn fy meddyliau neu fy agweddau?
Yna yn fy nghartref gyda’m teulu – ble mae yna gyfle i mi weithredu yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth ddarllen? Efallai fod angen rhoi sylw i ryw aelod o’r teulu. Neu efallai fod angen dangos diolchgarwch tuag at rhywun sydd yn teimlo fod pawb yn eu cymryd yn ganiatáol.
Wedyn rhaid meddwl am deulu’r ffydd – yr eglwys. Sut fedra i galonogi ac adeiladu fy nghyd-Gristnogion? Tybed fyddai rhannu’r adnod honno wnaeth siarad gyda mi efo rhywun yn help iddyn nhw? Pwy yn nheulu’r ffydd sydd fy angen i ddod ochr yn ochr â nhw mewn rhyw ffordd? Mae’n syndod fel mae gair bach yn gallu calonogi a thrawsnewid dydd rhywun.
Wrth gwrs, fe fydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio llawer o amser gyda rhai sydd y tu allan i deulu’r ffydd. Dyma le arbennig i ddangos fod y Gair yn trawsnewid ein bywyd. Wrth i oleuni Crist lewyrchu arnom ni, yna boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd. (Mathew 5:16) Rhaid caru y person anodd eu caru. Rhaid cofio y rhai mae pawb arall yn eu hanghofio.
Os ewch chi at y Gair gyda’r cwestiynau hyn, ac yna mynd ati i geisio gweithredu ar sail yr hyn rydych wedi ei ddarllen yna fe ffeindiwch chi na fydd y Beibl byth yn lyfr boring i chi, a bydd eich bywyd yn llawn cyffro wrth i chi weld Duw ar waith o ddydd i ddydd.