Amdanom ni
Mae Capel y Ffynnon yn eglwys efengylaidd Gymraeg sy’n cyfarfod yn ninas Bangor, Gwynedd.
Rydym yn gymdeithas o bobl sy’n caru’r Arglwydd Iesu Grist. Mae ein hoedran, ein cefndir a’n diddordebau yn amrywio, ond rydym i gyd wedi dod i gredu mai’r peth mwyaf pwysig yw cael perthynas fyw hefo Iesu Grist. Mae hyn yn rhoi ystyr, cyfeiriad a gwerth i’n bywydau.
Amcanion yr Eglwys yw i addoli’r unig wir Dduw, cyhoeddi efengyl Iesu Grist gan ddod â phobl i mewn i gymdeithas Ei deulu, eu meithrin i ddod yn debycach i Iesu Grist, ac i ymarfer eu doniau i gymeradwyo Crist i eraill a gwasanaethu’r gymdeithas.
Ar hyn o bryd mae’r Eglwys yn cyfarfod yn rheolaidd yng Nghanolfan Penrhosgarnedd, Bangor bob dydd Sul am 10:30 y bore a 6 y nos. Yn ystod y tymor ysgol bydd Ysgol Sul oed uwchradd y cael ei gynnal am 9:50 y bore, ac i’r oed cynradd yn ystod yr oedfa. Cynhelir Cyfarfod Gweddi fel arfer bob nos Fercher am 7:30.
Cyfeiriad y ganolfan yw – Ffordd Penrhos, Bangor LL57 2NN
Mae modd clywed pregethau Capel y Ffynnon drwy’r dudalen YouTube – https://www.youtube.com/channel/UCA5RYrRNLOLZw27InrtmF9A
Rydym hefyd yn cynnal cyfarfodydd i blant a phobl ifanc bob yn ail nos Wener yn ystod y tymor ysgol.
Gweinidog Capel y Ffynnon – Rhodri Glyn
Mae gan yr Eglwys statws elusennol. Rhif Cofrestriad Elusennol yr Eglwys yw: 1172243