Blwyddyn Newydd
Blwyddyn Newydd Dda
Mae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion. (rhagor…)