Tymor yr Adfent 2014, 13

Carolau“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â’i bobl a’u prynu i ryddid; “(‭Luc‬ ‭1‬:‭68‬ BCN)

Roeddwn yn sôn ddoe am Sachareias, a Duw yn dweud fod ei weddi wedi ei gwrando a’i hateb. Mae’n debyg mai’r peth cyntaf fyddai am ei wneud ar ôl gadael y deml fyddai dweud wrth rhywun am ymweliad yr angel. Ond nid oedd yn gallu. Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi’n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.” (‭Luc‬ ‭1‬:‭19-20‬ BCN) Roedd ei anghrediniaeth wedi cau ei enau. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 12

imageYn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o’r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. (‭Luc‬ ‭1‬:‭5‬ BCN)

Ymhlith cymeriadau hanes Gŵyl y Geni, dau sydd byth yn ymddangos yn nramáu’r geni yn yr ysgolion yw Sachareias ac Elisabeth. Ar un olwg mae hynny yn golled, oherwydd dyma gwpl gwerth sylwi arnyn nhw. Roedden nhw’n bobl y gallai Duw weithio yn eu bywydau. Roedd Sachareias yn offeiriad, ac yn ymwybodol o’r fraint oedd ganddo o fod yn un o’r rhai oedd yn cael gwasanaethu Duw yn y deml. Roedd ef a’i wraig yn caru Duw, ond hefyd yn rhai oedd yn gwybod am ofid. Roedden nhw yn ddi-blant. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 9

imageDedwyddach yw rhoi na derbyn (Actau 20:35)

Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser o haelioni mawr. Daeth rhoi anrhegion yn gymaint rhan o’r ŵyl o leiaf yn y byd gorllewinol. Bydd plant yn llawenhau wrth agor eu trysorau ar fore dydd Nadolig. Ond bydd rhai eraill yn dangos eu haelioni trwy roi eu hamser i ofalu am y digartref neu’r unig. Er bod modd dadlau fod ein cymdeithas wedi mynd yn hunanol iawn, eto gallwn ddarganfod ysbryd hael mewn sawl lle. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 8

imageI ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭8‬ BCN)

Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.

Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 7

 

CarolauYn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (‭Luc‬ ‭2‬:‭13-14‬ BCN)

Mae carolau yn rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf o bobl. Pan fydd y cordiau kcyntaf ar yr organ yn dechrau chwarae, a’r geiriau “O deuwch, ffyddloniaid” yn atseinio drwy’r adeilad rydech chi’n gwybod fod Gŵyl y Geni wedi cyrraedd. Mae canu yn dylanwadu arnom mewn ffordd arbennig, gan gyffwrdd yr emosiwn mewn ffordd ddwfn iawn. Ond beth sy’n gwneud carol dda? (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 6

imageYna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. (‭Ioan‬ ‭7‬:‭6‬ Cyfieithiad William Morgan)

Mae’n benwythnos, ac felly i amryw dyma gyfle i ymlacio ychydig. Does dim rhaid mynd i’r gwaith, ac mae mwy o amser i wneud pethau gwahanol, neu i feddwl am bethau gwahanol. Felly heddiw fe hoffwn feddwl ychydig bach am amser. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 5

imageGosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (‭Genesis‬ ‭3‬:‭15‬ BCN)

A oeddwn yn rhy galed ar Efa ym myfyrdod ddoe? Hi oedd y cyfrwng i’r sarff ddwyn gofid i’n byd.  Trwyddi hi daeth pechod yn rhan o’n natur. Mae’r hanes yn Genesis yn dweud wrthym fod Adda yn gyd-gyfrifol am y bai, am nad ataliodd hi rhag bwyta; yn hytrach ymunodd gyda hi mewn gwrthryfel yn erbyn gorchymyn Duw. Ond hi gymrodd y ffrwyth. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 4

imageA phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (‭Genesis‬ ‭3‬:‭6‬ BCN)

“A beth wyt ti isio i Sion Corn ddod i ti?” Dyma’r cwestiwn fydd yn cael ei ofyn i blant yn ddi-ben draw yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae plant yn cael eu hannog i ddychmygu beth fydden nhw’n hoffi ei gael. Dyma ran o’r edrych ymlaen, o godi’r disgwyliadau am y diwrnod mawr. (rhagor…)

Tymor yrAdfent 2014, 3

Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Glân arno. (‭Luc‬ ‭2‬:‭25‬ BCN)

Roeddwn i’n meddwl ddoe am yr hiraeth sy’n bodoli yn ein calonnau. Beth sy’n troi hiraeth yn obaith, neu yn ddisgwyliad?
Bydd plant yn edrych ymlaen at y Nadolig, gan obeithio, a hyd yn oed disgwyl derbyn rhai anrhegion. Sut mae eu gobaith wedi troi yn fwy na syniad yn yr awyr – wishful thinking? Tybed nad cymeriad ac addewidion eu rhieni? Mae nhw’n adnabod eu rhieni, ac mae rheini wedi dweud wrthyn nhw bydd pethau da yn digwydd ar fore Dydd Nadolig. (rhagor…)