Tymor yr Adfent 2014, 2

imageFel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (‭Salmau‬ ‭42‬:‭1‬ Cyfieithiad William Morgan)

Mae hiraeth yn un o’r geiriau hynny sy’n arbennig i’r iaith Gymraeg. Mae’n anodd ei gyfieithu – ac eto mae’n brofiad cyffedin i bawb. Mae’n mynegi rhyw anfodlonrwydd gyda’n sefyllfa, a dymuniad i fod naill ai gyda rhywbeth arall, mewn rhyw le arall, neu gyda pherson absennol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.” (‭Eseia‬ ‭40‬:‭3‬ BCN)

images (5)Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain. (rhagor…)

Deiet wedi’r Dolig

weightloss2Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau? (rhagor…)

Sbarion y Twrci

pturkey12_1204051cWel, fe aeth y diwrnod mawr heibio unwaith eto. Gobeithio i chi brofi bendith a mwynhád yn ystod y dydd. Mae’n siwr y bydd y mwyafrif ohonoch yn parháu i fwynhau cyfnod o ymlacio heddiw, os nad ydych wedi bod yn brysio i’r “Sales” bondigrybwyll. Er, i rai pobl dyna yw eu dileit – mae nhw’n cael ymlacio wrth fynd i edrych y bargeinion. I eraill, mae digon o’r twrci ar ôl, ac amser i ymlacio ac edrych yn fwy hamddenol ar yr anrhegion. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xxi

Ddoe, a minnau wedi mynd allan i ymweld â rhywun, roeddwn yn gwrando ar y radio yn y car. Classic FM oedd yr orsaf, a minnau’n mwynhau’r gerddoriaeth. Wrth i mi nesáu at y tŷ, dyma’r darlledwr yn cyhoeddi – mewn dau funud roedden nhw’n mynd i chwarae gurino-lightsFINALrecordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo. (rhagor…)