Tymor yr Adfent xvi

Familiarity breeds contempt meddai’r hen air. Efallai mai gwireb fwy cywir parthed hanes y Nadoilig fyddai’r hyn ddywedodd rhywun arall yn ddiweddar: Familiarity breeds inattention. Rydym mor gyfarwydd â rhai geiriau ac adnodau, fel nad ydym yn meddwl yn ddwfn iawn am eu hystyr, Cymrwch chi’r adnod honno o Eseia:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)

(rhagor…)

Tymor yr Adfent xv

_71750229_71750228Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xiv

images (1)Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xi

Mae a wnelo deall y Nadolig â deall ein cyflwr ni. Mae’r Beibl yn rhoi’r urddas mwyaf i ni, oherwydd rydym yn darllen yn y bennod gyntaf oll ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw. Mae yna rhywbeth amdanom ni sy’n ein gosod arwahán i weddill y creaduriaid. Mae nhw’n dangos creadigrwydd a gallu Duw, fel mae darlun yn gallu dangos dawn arlunydd. Ond rydym ni wedi ein creu i fod yn fwy, fel hunan-bortread lle mae’n dangos ei natur ei hun. (rhagor…)

Tymor yr Adfent ix

Mae yna fwrdd yn ein tŷ ni sydd ar hyn o bryd wedi diflannu dan lwyth o bapur lliwgar, sellotape, a chardiau. Un o’r gorchwylion yr adeg hon yw lapio’r anrhegion. Mae rhai yn gweld hyn yn orchwyl diflas, ond mae eraill yn cael mwynhád o gymeryd anrheg, dewis papur gyda rhyw batrwm nadoligaidd a’i dorri i faint cyfatebol, ac yna lapio’r anrheg yn download (2)ofalus, gan feddwl am y person wnaiff dderbyn y rhodd. Mae yna rhyw fwynhád arbennig os oes modd cuddio siap yr anrheg, rhag i’r un sy’n ei dderbyn fedru dyfalu beth sydd ynddo o flaen llaw. (Mae hyn ychydig yn anodd os mai beic yw’r rhodd!) Un gêm mae llawer yn ei chwarae ydi ceisio dyfalu beth sydd wedi ei guddio dan y papur sgleiniog cyn ei agor. (rhagor…)

Tymor yr Adfent viii

Yn arferol mae’r Sul yn ddiwrnod i orffwys oddi wrth ein cyfrifoldebau arferol. Mae’n gallu bod yn ddiwrnod i anadlu ynghanol prysurdeb bywyd. Ond bydd y Sul hwn i rai yn bur wahanol i’r arfer. I rai mae’n ddiwrnod o gyfrif cost y llifogydd yr wythnos a aeth heibio. Mae rhai yn arbennig wedi colli eu cartrefi yn swydd Norfolk, a bydd yna edrych yn bryderus i’r dyfodol gyda chwestiynau mawr am sut mae ei wynebu. (rhagor…)