Adfent 2013
Tymor yr Adfent vii
Un o’r pethau sydd wedi bod ar y newyddion y dyddiau diwethaf yw’r olygfa dorcalonnus o gartrefi wedi eu hysgubo ymaith gan y stormydd ar arfordir dwyrain Lloegr. Roedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau. (rhagor…)