Tymor yr Adfent 23

Gyda Sul arall wedi ein cyrraedd dyma drydedd garol ar eich cyfer. Mae hon yn pwysleisio’r gwahanol ymateb i’r Gwaredwr. Fe dywedodd Simeon y byddai’r baban hwn yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer. (Luc 2:34) A dyna fu mewn gwirionedd. Rhoir clod i’r bugeiliaid am adael eu praidd i chwilio amdano. Rhyfeddir at y sêr ddewiniaid yn teithio’n bell gan ddilyn y seren nes dod o hyd i’r un bach er mwyn ei addoli. Ar y llaw arall mae hanes yn ffromi ar ddinas Bethlehem, na roddodd le i’r bychan yn y llety. Condemnir Herod yn hallt am ei awydd i ddifa’r bychan. Ond felly mae hi o hyd – mae rhai yn croesawu Iesu, ac eraill yn ei wrthod. Peidiwn ni a throi cefn ar Waredwr mor rasol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 22

Fyddwch chi’n cael trafferth i ddewis anrhegion i’w rhoi i bobl? Mae ambell i berson yn hawdd iawn i’w plesio, a does dim problem meddwl beth i’w roi iddyn nhw. Ond mae ambell un arall yn fwy anodd – yn enwedig os nad ydyn nhw wedi rhoi unrhyw gliw i chi beth fyddai’n dda ganddyn nhw ei gael y flwyddyn hon. Wedi’r cwbl, rydech chi am gael rhywbeth fydd yn siwtio, yn enwedig mewn dydd o gynni cymharol. Tydech chi ddim am luchio arian i ffwrdd ar rhywbeth na gaiff ei werthfawrogi. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 21

Heddiw roedd amryw mae’n debyg yn disgwyl diwedd y byd. Yn ôl y calendr Mayan, roedden nhw’n tybied fod popeth yn mynd i ddirwyn i ben ar y diwrnod hwn. Nid dyma’r tro cyntaf i bobl fod yn disgwyl rhywbeth fel hyn i ddigwydd. Sawl tro mae gwahanol grwpiau – hyd yn oed Cristnogion – wedi tybied fod diwedd yr oes hon yn mynd i gyrraedd ar rhyw adeg arbennig neu mewn rhyw flwyddyn arbennig. (A hynny ar waethaf y ffaith fod yr Ysgrythur yn dweud yn glir nad yw’n perthyn i ni wybod yr amserau – tydyn nhw ddim wedi eu datgelu i ni.) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 20

Mae’r ffilm The Hobbit yn y sinemáu yr wythnos hon. Tydw i ddim am fradychu’r plot i unrhyw un sy’n dymuno mynd i’w gweld. Ond gallaf ddweud ychydig heb roi dim byd o bwys i ffwrdd (Tydw i ddim wedi gweld y ffilm – dim ond wedi darllen y llyfr, a gweld yr hysbysebion).

Mae’r hanes yn dechrau gyda Bilbo Baggins – creadur sydd ddim o dras dynion – un o’r hobbits ydi o – creadur sy’n ymddangos yn ddynol, yn enwedig yn ei natur. Ond mae’n fach fel corrach, mae ganddo flew yn tyfu ar ei draed, ac mae’n hoffi aros gartref. Y peth gwaethaf allai ddigwydd iddo fyddai gorfod gadael ei gartref cysurus, wedi ei gloddio yn ochr y bryn yn Hobbiton. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 19

Fe soniais i ddoe fod y Tad ar waith yn trefnu cynllun grasol i ddangos pa mor rhagorol yw’r Mab. Mae pobl efengylaidd weithiau wedi gosod y Tad yn erbyn y Mab. Mae’r Tad yn ddig oherwydd ein pechod, a daw’r Mab yn rasol i sefyll rhwng dicter y Tad â ni, a bodloni ei awydd am gyfiawnder. (Dyma’r darlun barodd i Steve Chalke ddisgrifio athrawiaeth yr Iawn fel cosmic child abuse.) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 15

Ydi hi’n anodd i chi wahodd rhywun i gyfarfod yn y capel? Mae’n wir fod ymateb pobl i wahoddiadau’n gallu bod yn negyddol iawn. Mae ychydig yn wahanol adeg y Nadolig, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi rhyw sing-song o garolau un waith y flwyddyn.

Beth am atgoffa’n hunain o’r doethion welodd Seren Bethlehem fel gwahoddiad i ymateb iddo trwy deithio’n bell (wyddom ni ddim yn iawn pa mor bell) er mwyn dod o hyd i’r baban yn y preseb. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 14

“Mind the gap.” Ryden ni gyd wedi clywed y geiriau wrth i’r tren nesáu at yr orsaf. Os na wyliwn, mae perygl i ni cael ein hanafu’r ddifrifol. Rhaid camu dros y bwlch o’r tren i’r platfform.

Mae hyn yn ddarlun o sut gall ein ffydd fel Cristnogion fod. Un peth yw cael ffydd yn y pen – rhyw ffydd ymenyddol yn unig. Er i ni efallai fod â ffydd fyw ar un adeg mae’n hawdd iddo ddirywio, nid yn gymaint i fod yn ffydd farw, ond yn rhywbeth sy’n llai na ddylai fod. Mae yna fwlch yn gallu codi rhwng yr hyn a gredwn, a’n profiad o ddydd i ddydd. (rhagor…)