Adfent 2015
Tymor yr Adfent 4
‘Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn, ond anfonodd nychdod i’w mysg.’
Y Salmau 106:15
Darllenwch Salm 106:6-15
Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i blant y mis hwn ydi “Beth hoffet ti gael gan Siôn Corn?” Mae nhw’n cael eu gwahodd i ddychmygu beth fyddai’n rhoi llawenydd iddyn nhw. Yn wir, mae cymaint o firi’r tymor yn troi oddi amgylch y pethau sydd i’w cael a’u profi. Rhywsut rydym yn cael ein perswadio na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb weld y rhaglen deledu arbennig, neu brofi’r bwydydd o ryw siop, neu roi’r tegan diweddaraf i’n plant. Nid fy mwriad yw gweiddi “Bah! Humbug!” – rwyf fi’n mwynhau mins pei gymaint ag unrhyw un arall! (rhagor…)