Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 24
Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” (Luc 2:15 BCN)
Wrth fynd â’r ci am dro yn gynnar bore ma, roedd yr awyr uwch fy mhen yn glir. Roedd cymylau a glaw ddoe wedi diflannu a’r sêr yn disgleirio. Roedd yn hawdd dychmygu’r bugeiliaid hynny dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl ar fryniau Jwdea yn gwylio’r un sêr, ac yn gofalu am eu praidd. (rhagor…)