Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf ohonom yw canu. Mae’n draddodiad anrhydeddus, yn mynd yn ôl i hanes y bugeiliaid, yn clywed côr yn canu uwch y bryniau – côr o angylion! Mi fyddwn ninnau wedyn wrth ein bodd yn mynd i glywed perfformiad o oratorio Handel – Y Meseia. Mae yna rhywbeth gogoneddus am glywed geiriau’r Ysgrythur wedi eu rhoi ar gân fel hyn. Neu mae ymuno mewn gwasanaeth carolau, a chlywed nodau cyntaf y cyfeilydd yn arwain i hen garol gyfarwydd, megis O! Deuwch ffyddloniaid, yn ein symud i dir gwahanol – atgofion o Nadolig pan yn blentyn efallai. (rhagor…)